Neidio i'r prif gynnwy

Rhybudd Diogelwch - Peiriannau Pwysedd Llwybr Awyru Aml-lefel (PAP Aml-Lefel), Pwmp Aml Awyru (CPAP) a dyfeisiau awyru mecanyddol Philips

Arwydd gwybodaeth

Fe'n gwnaed yn ymwybodol o broblemau gyda rhai peiriannau Pwysedd Llwybr Awyru Aml-lefel (PAP Aml-Lefel), Pwmp Aml Awyru (CPAP) a dyfeisiau awyru mecanyddol Philips.

Mae Philips Respironics UK wedi cyhoeddi Rhybudd Diogelwch. Mae'r rhybudd hwn yn dweud y gall rhan ewynnog y peiriant gael ei niweidio o dan rhai amodau. Cyhoeddwyd yr hysbysiad hwn yn fyd-eang, felly nid yw'n benodol i'r DU yn unig.

Mae'r amodau hyn, y mae pob un ohonynt yn brin yn y DU, yn cynnwys:

• Defnyddio'r dyfeisiau hyn mewn tymereddau uchel iawn

• Defnyddio'r dyfeisiau hyn gyda lefelau lleithder uchel

• Defnyddio hylif glanhau heb ei gymeradwyo ar y dyfeisiau hyn

Mae'r GIG wedi bod yn gweithio'n agos gyda Philips a'r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) sy'n gyfrifol am ddiogelwch cleifion. Ni adroddwyd unrhyw faterion diogelwch yn ymwneud â'r cynhyrchion hyn yn y DU. Ni adroddwyd am unrhyw ddigwyddiadau niweidiol yn y DU mewn perthynas â'r dyfeisiau hyn i'r MHRA.

I'r rhan fwyaf o gleifion mae'r risg o beidio â defnyddio'r dyfeisiau hyn yn llawer mwy na'r risg o'r mater y mae Philips wedi'i nodi. Mae'r MHRA wedi cynghori y dylai cleifion barhau i ddefnyddio'r dyfeisiau hyn.

Bydd angen symud rhai cleifion â rhai mathau prin iawn o asthma sy'n gysylltiedig ag isocyanadau i ddyfais arall. Os yw hyn yn berthnasol i chi, rhowch wybod i ni ar unwaith.

Bydd Philips yn disodli'r hidlwyr yn raddol. Mae'r rhybudd y mae Philips Respironics UK wedi'i gyhoeddi yn gofyn i gleifion gofrestru eu dyfeisiau. Fodd bynnag, bydd y GIG yn gwneud hyn ar ran cleifion, yn ystod apwyntiadau clinig arferol. Cysylltwch â ni ar rif canolfan orchymyn Hywel Dda: 0300 303 8322 (9-5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener) i gael mwy o wybodaeth. Dewiswch yr opsiwn briodol.