Neidio i'r prif gynnwy

Rhannwch eich barn i lunio eich Gofal Sylfaenol a Chymunedol a Llesiant

16 Awst 2024

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gwahodd pobl i fynychu digwyddiadau ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro y mis Medi hwn 2024 i ddarganfod mwy am wasanaethau gofal iechyd Sylfaenol a Chymunedol.

Mae ymarfer ymgysylltu ‘Fy Iechyd, Fy Newis’ yn cynnwys digwyddiadau arddangos mewn gwahanol leoliadau ac ar-lein, gyda thudalennau gwe i roi rhagor o wybodaeth. Mae'r Bwrdd Iechyd hefyd yn gofyn i bobl rannu eu profiadau ar wasanaethau gofal iechyd a syniadau ar gyfer y dyfodol.

Mae’r ymarfer ymgysylltu, a gynhelir rhwng 2 Medi ac 11 Hydref 2024, yn canolbwyntio ar gynllunio’r ffordd orau o ddarparu gwasanaethau Gofal Sylfaenol a Chymunedol, sy’n cwmpasu’r rhan fwyaf o wasanaethau iechyd a gofal a ddarperir gan y GIG y tu allan i ysbytai.

Mae'r gwasanaethau hyn yn cynnwys Fferyllfeydd Cymunedol, practisau Optometrig, (a elwir weithiau'n Optegwyr), gwasanaethau Deintyddol y GIG, a meddygfeydd. Mae gwasanaethau yn y gymuned yn darparu timau allgymorth, nyrsio ardal, clinigau cymunedol, gofal diwedd oes a mwy.

Dywedodd Jill Paterson, Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Ein gweledigaeth ar y cyd yw darparu gwasanaethau iechyd a gofal diogel, cynaliadwy a hygyrch mor agos i’ch cartref â phosibl, yn unol â’n Strategaeth Canolbarth a Gorllewin Cymru Iachach.

“Credwn, trwy ymgysylltu â’n Cymunedau yn uniongyrchol, y gallwn ddeall eu hanghenion a’u dewisiadau yn well, a cheisio sicrhau bod ein gwasanaethau’n diwallu’r anghenion hynny lle bynnag y bo modd.”

“Hoffem glywed sut yr ydych yn defnyddio’r gwasanaethau iechyd a gofal hyn ar hyn o bryd, a’r hyn y byddai ei angen arnoch i gynnal eich llesiant. Hoffem i chi rannu eich profiadau, yr hyn sydd bwysicaf i chi, a'ch gweledigaeth ar gyfer dyfodol gofal iechyd yn eich cymuned.”

Mae llawer o ffyrdd i gymryd rhan.

Mynychu Digwyddiadau Iechyd a Lles

Drwy fynychu un o’r digwyddiadau, gallwch ddysgu mwy am y gwasanaethau sydd ar gael yn eich cymuned a rhannu eich barn. Bydd digwyddiadau yn cael eu cynnal yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Gweler manylion yr amseroedd, dyddiadau a lleoliadau isod neu cliciwch ar y ddolen hon i ymweld â'n gwefan am ragor o wybodaeth (agor mewn dolen newydd).

  • 5 Medi 2024, 2pm-6:30pm, Neuadd Bentref Bancyfelin, Bancyfelin, SA33 5ND
  • 11 Medi 2024, 2pm-6:30pm, Neuadd y Regency, Saundersfoot, SA69 9NG
  • 12 Medi 2024, 2pm-7pm, Neuadd Goffa Pontyberem, Pontyberem, SA15 5HU
  • 19 Medi 2024, 2pm-7pm, Neuadd Tysul, Llandysul, SA44 4QL
  • 24 Medi 2024, 2pm-7pm, Yr Hwb, Canolfan Gymunedol Penparcau, Aberystwyth, SY23 1RU
  • 25 Medi 2024, 10am-5pm, HaverHub, Yr Hen Swyddfa Bost, Stryd y Cei, Hwlffordd, SA61 1BG
  • 26 Medi 2024, 2pm-7pm, Ffwrnes Fach, Hyb Celfyddydau, Iechyd a Lles, Llanelli, SA15 3YE

Ymuno â Digwyddiad Ar-lein

Gallwch hefyd ymuno â’n digwyddiadau ar-lein o gysur eich cartref eich hun:

  • 10 Medi 2024, 11am
  • 16 Medi 2024, 6pm

Cliciwch ar y ddolen hon i gwblhau ffurflen gofrestru i fynychu digwyddiad ar-lein (agor mewn dolen newydd).

Cwblhau Holiadur

Ewch i’n tudalennau ymgysylltu ar-lein yn https://www.dweudeichdweud.biphdd.cymru.nhs.uk/ i gwblhau holiaduron o 2 Medi i 11 Hydref 2024.

Os na allwch fynychu digwyddiad, gallwch barhau i rannu eich barn

  • Ebostiwch ask.hdd@wales.nhs.uk
  • Ffoniwch 0300 303 8322 (dewiswch opsiwn 5) ar gyfer cyfathrebu uniongyrchol ar gyfraddau galwadau lleol
  • Postiwch eich adborth i FREEPOST HYWEL DDA HEALTH BOARD

Dywedodd Sion James, Dirprwy Gyfarwyddwr Meddygol – Gofal Sylfaenol a Gwasanaethau Cymunedol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym eisiau gweithio ochr yn ochr â’n cleifion a’n cymunedau, ein staff, a chontractwyr sy’n darparu gwasanaethau gyda ni, a phartneriaid. Drwy wrando arnoch chi ac ystyried eich barn a'ch syniadau, credwn y gallwn ddarparu Gwasanaethau sy'n diwallu anghenion ein hardal orau.

“Bydd eich barn a’ch syniadau yn helpu i lunio dyfodol gwasanaethau Gofal Sylfaenol a Chymunedol. Byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi ac yn rhoi cyfleoedd pellach i chi rannu eich barn wrth i ni symud ymlaen. Edrychwn ymlaen at gwrdd â chi ar-lein neu wyneb yn wyneb yn un o’n digwyddiadau.”