Neidio i'r prif gynnwy

Rhannwch eich barn ar yr hyn sy'n eich helpu i fyw bywyd iach

26 Medi 2025

Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn parhau i archwilio beth sy'n bwysig i bobl fyw bywydau iachach wrth iddo symud i ail gan o ymgysylltu i adfywio ei strategaeth hirdymor. 

Mewn cyfarfod ddoe (Dydd Iau 25 Medi), cytunodd Bwrdd Iechyd i ymgysylltu naw wythnos â chymunedau ynghylch yr hyn sy'n llunio iechyd da y tu hwnt i ymweliadau â'r gweithwyr proffesiynol gofal iechyd a sut mae hyn yn cyfrannu at strategaeth hirdymor y bwrdd iechyd. 

Mae'r ymgysylltu hwn yn adeiladu ar gwestiwn a ofynnwyd gennym yn ystod misoedd yr haf - Beth sy'n bwysig i chi er mwyn byw bywyd iach? Cawsom bron i 800 o ymatebion i'r cwestiwn, a hoffem nawr ddeall mwy am sut y gallwn symud ein strategaeth ymlaen a'n galluogi ni i gyd i fyw bywydau iachach. 

Bydd gweithgareddau ymgysylltu yn gofyn 11 cwestiwn i'r cyhoedd, trwy grwpiau cymunedol presennol a chyfryngau cymdeithasol, i ddarganfod beth sydd bwysicaf i bobl o ran cadw’n iach a chyrchu gofal iechyd. 

Bydd hyn yn cynnwys sut mae eich ardal leol a rhwydweithiau cymorth yn helpu, sut y gallai offer digidol wneud gofal a mynediad ato yn haws, sut y gallwn gydbwyso gofal ysbyty yn well â chymorth yn agosach at adref a'r hyn sydd bwysicaf wrth wella adeiladau a mannau gofal iechyd. 

Dywedodd y Prif Weithredwr, yr Athro Philip Kloer: “Lansiwyd ein strategaeth Canolbarth a Gorllewin Cymru Iachach yn 2018 ac mae’r cyfeiriad cyffredinol yn parhau’n gadarn. Mae hyn yn cynnwys dod yn fwy o wasanaeth llesiant, adeiladu model cymdeithasol ar gyfer iechyd sy’n edrych ar bob agwedd ar yr hyn sy’n cyfrannu at iechyd da, cefnogi iechyd trwy dechnoleg, buddsoddi yn ein hadeiladau a dod â gwasanaethau ysbytai acíwt ynghyd. 

“Fodd bynnag, mae’r amgylchedd wedi newid yn sylweddol, yn enwedig oherwydd y pandemig a hefyd ddatblygiad galluoedd digidol. Mae ein Bwrdd wedi cytuno heddiw i gasglu mwy o fewnwelediad gan ein cymunedau i’n helpu i adfywio ein strategaeth yng ngoleuni hyn. 

“Mae angen strategaeth arnom i wynebu’r rhagfynegiadau llym ar gyfer ein poblogaeth yn y dyfodol, o fwlch cynyddol mewn disgwyliad oes rhwng y cymunedau mwyaf a lleiaf difreintiedig, pobl sy’n byw gyda mwy o gyflyrau cronig a nifer o gyflyrau cronig, a phrinder staff gofal iechyd. 

“Rydym yn gwybod bod angen i ni fuddsoddi mwy mewn atal ac mewn gwasanaethau digidol i alluogi mwy o bobl i gymryd perchnogaeth o’u gofal ac felly mae’n hanfodol ein bod yn deall beth mae hyn yn ei olygu i bobl ac fel y gall ein cymunedau helpu i lunio hyn.” 

Gallwch gymryd rhan yn y sgwrs drwy: ·  

Y dyddiad cau i gymryd rhan ac i rannu eich barn yw 28 Tachwedd 2025.