Neidio i'r prif gynnwy

Rhagofalon dros dro ar waith mewn ysbytai i amddiffyn cleifion 

30 Rhagfyr 2024 (wedi ei ddiweddaru ar 31 Rhagfyr 2024)

Gofynnir i ymwelwyr ag ysbytai ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, a Sir Benfro fynychu dim ond os ydynt yn rhydd o unrhyw symptomau tebyg i ffliw, neu unrhyw salwch neu ddolur rhydd. Yn ogystal, efallai y gofynnir iddynt wisgo masgiau wyneb cyn mynd i mewn i rai wardiau neu adrannau.

Mae ffliw tymhorol a firysau chwydu'r gaeaf yn effeithio ar gleifion ar sawl ward ac mae camau atal a rheoli heintiau yn cael eu cymryd yn ôl yr angen.

Gofynnir i ymwelwyr ddod i weld eu hanwyliaid dim ond os ydynt yn rhydd o unrhyw heintiau, i olchi dwylo cyn gadael cartref ac i lanhau dwylo drwy ddefnyddio hylif diheintio dwylo wrth ddod i mewn i'r ysbyty. Efallai y gofynnir hefyd i ymwelwyr wisgo masgiau/gorchuddion wyneb ar y ward/adran. Bydd masgiau ar gael wrth fynedfa’r ysbyty neu gellir eu darparu ar y wardiau sydd wedi eu heffeithio.

Mae cyfyngiadau ychwanegol ar waith sy’n cyfyngu ymwelwyr i’r:

  • Uned Asesu Meddygol Acíwt (AMAU) yn Ysbyty Tywysog Philip, Llanelli. Trafodwch drefniadau ymweld â chleifion unigol yn AMAU gyda'r brif nyrs.
  • Y Bwa, Hafan y Waun, Aberystwyth. Trafodwch drefniadau ymweld â chleifion unigol yn Y Bwa gyda'r brif nyrs.
  • Ward Ystwyth, Ysbyty Bronglais. Trafodwch drefniadau ymweld â chleifion unigol yn Ward Ystwyth gyda'r brif nyrs.

Bydd y trefniant hwn yn cael ei adolygu’n ddyddiol, a bydd cyfyngiadau’n cael eu codi cyn gynted â phosibl. Bydd gwefan y Bwrdd Iechyd yn cael ei diweddaru’n ddyddiol gyda manylion wardiau sydd â chyfyngiadau uwch ar ymweld.

Dywedodd Janice Cole Williams, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Nyrsio ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “O fewn wardiau yr effeithiwyd arnynt, mae’r holl staff yn gwisgo masgiau ac mae ymweliadau’n gyfyngedig yn Uned Asesu Meddygol Acíwt Ysbyty Tywysog Philip i helpu i atal lledaeniad heintiau.

“Gall ein cymuned leol ein helpu i osgoi achosion o haint drwy beidio ag ymweld â theulu a ffrindiau yn yr ysbyty os ydynt yn teimlo’n sâl eu hunain.

“Hefyd, yn ddiamau, brechiad ffliw blynyddol yw’r ffordd orau o amddiffyn rhag dal neu ledaenu’r ffliw. Nid yn unig y gall eich atal rhag mynd yn sâl iawn, gall hefyd helpu i leihau eich risg o heintiau eilaidd fel niwmonia, a all fod yn beryglus iawn os ydych yn glinigol agored i niwed.”

Mae canolfannau brechu ar agor, ac nid oes angen apwyntiad heddiw (dydd Llun), tan 5.30pm ac yfory, dydd Mawrth, Rhagfyr 31 ar gyfer pawb sy'n gymwys i gael brechiadau ffliw a COVID-19. Mae hyn yn cynnwys plant dwy oed (ar 31 Awst 2024) i’r rhai ym mlwyddyn 11 sy’n gallu cael y brechlyn ffliw trwy chwistrell yn y trwyn yn y canolfannau.

Galwch heibio unrhyw bryd rhwng 9.15am a 5.30pm i'ch canolfan frechu agosaf:

  • Aberaeron (Canolfan Gofal Integredig Aberaeron, Godre Rhiwgoch, Aberaeron, SA46 0DY)
  • Llanelli (Uned 2a, Stad Ddiwydiannol Dafen, Heol Cropin, SA14 8QW)
  • Neyland (Uned 1 Parc Manwerthu Honeyborough, SA73 1SE)

Mae'r grwpiau canlynol yn gymwys i gael eu brechu:

Brechiad ffliw

  • Plant dwy a thair oed ar 31 Awst 2024 
  • Plant yn yr ysgol gynradd o'r dosbarth derbyn i flwyddyn 6 (cynhwysol)  
  • Plant mewn ysgol uwchradd o flwyddyn 7 i flwyddyn 11 (cynhwysol)   
  • Pobl rhwng chwe mis a 64 oed mewn grwpiau risg clinigol   
  • Pobl 65 oed a hŷn (oed ar 31 Mawrth 2024)
  • Menywod beichiog  
  • Gofalwyr 16 oed a hŷn
  • Pobl rhwng chwe mis a 65 oed sy'n byw gyda rhywun sydd â system imiwnedd wan  
  • Pobl ag anabledd dysgu 
  • Gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen  
  • Pob aelod o staff sy'n gweithio mewn cartrefi gofal gyda chyswllt rheolaidd â chleientiaid
  • Gweithwyr dofednod mewn risg uchel

Brechiad COVID-19

  • Pobl rhwng chwe mis a 64 oed â chyflwr iechyd hirdymor (sy'n cynnwys menywod beichiog a phobl â system imiwnedd wan)
  • Preswylwyr mewn cartref gofal i oedolion hŷn
  • Pobl 65 oed a hŷn (oed ar 31 Mawrth 2025)
  • Gofalwyr di-dâl
  • Gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen
  • Staff sy'n gweithio mewn cartrefi gofal i oedolion hŷn

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am gael mynediad at y brechlyn ffliw a/neu COVID-19, ffoniwch y bwrdd iechyd ar 0300 303 8322 opsiwn 1 neu e-bostiwch: ask.hdd@wales.nhs.uk