Roedd staff o Feddygfa Dinbych-y-pysgod, practis a reolir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, yn falch iawn o ddychwelyd i Ynys Bŷr mewn cwch y bore yma i gynnig brechiadau ail ddos i fynachod sy'n byw yno, yn ogystal ag i drigolion cymwys yr Ynys.
Trosglwyddwyd y brechlyn Rhydychen / AstraZeneca yn ddiogel mewn cwch, ynghyd â’r imiwneiddwyr, yn gynnar y bore yma i ddarparu cyfuniad o ddosau brechlyn cyntaf ac ail.
Dywedodd Jill Paterson, Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol, Cymunedol a Hirdymor: “Mae hwn yn bendant yn un o'n clinigau brechu mwy unigryw i gyrraedd ein cymunedau ac rydym yn falch o fod yn dychwelyd.”
Mae Ynys Bŷr yn un o ynysoedd sanctaidd Prydain sydd â threftadaeth fynachaidd hir. Dechreuodd y mynachod Sistersaidd breswylio ym 1929 ac arwain bywyd o weddi a byw'n dawel.
Cyn y pandemig COVID-19, caniatawyd i westeion dydd ymweld â'r ynys yn nhymor yr haf a'r gobaith yw y bydd yr ynys yn ailagor i ymwelwyr dydd yn fuan iawn.
Yn y llun o'r chwith i'r dde: Janet Redburn, Rhian Mathias, Gilly Mills-Fripp.