11 Mai 2023
Bydd saith nyrs newydd gymhwyso sy'n gofalu am gleifion ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro yn ymddangos mewn rhaglen ddogfen newydd.
Yng nghyfres newydd sbon y BBC ‘Rookie Nurses’, sy’n dechrau ar BBCThree ar 17 Mai am 9.00pm, ac ar BBC One Wales ar 22 Mai am 10.40pm, cawn glywed gan rai o nyrsys mwyaf newydd canolbarth a gorllewin Cymru wrth iddynt gychwyn ar eu taith fel nyrsys proffesiynol cymwys.
Mae'r gyfres yn dangos bywydau nyrsys ifanc sydd newydd gymhwyso sy'n gweithio ar y rheng flaen ym maes gofal iechyd. Wedi’i adrodd o safbwynt y nyrsys, mae’n dilyn hanesion y sefyllfaoedd heriol y maent yn eu hwynebu bob dydd, gan eu gweld yn gofalu am gleifion a’u teuluoedd trwy’r hyn a all fod yr adegau anoddaf yn eu bywydau.
Yn ystod y gyfres, cawn glywed gan nyrsys Mikey, Leah, Caitlin, Georgina, Nivea, Issie ac Angelo, wrth iddynt ddechrau eu swyddi fel nyrsys cymwysedig llawn, gan ddysgu sut i ddelio â chymhlethdodau bywyd, marwolaeth a phopeth rhyngddynt.
Dywedodd Mandy Rayani, Cyfarwyddwr Nyrsio, Ansawdd a Phrofiad y Claf ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym yn hynod falch o weld gwaith rhai o’n nyrsys newydd gymhwyso, o wahanol wasanaethau ar draws y bwrdd iechyd, yn cael ei arddangos yng nghyfres y BBC, Rookie Nurses.
“Mae’n taflu goleuni ar y proffesiwn ysbrydoledig hwn ac yn dangos pa mor amrywiol yw rôl nyrsio a’r gwahanol gyfleoedd sydd ar gael ynddi.
“Mae’r rhaglen yn adlewyrchu llawer o’r uchafbwyntiau a’r isafbwyntiau a wynebir gan nyrsys mewn gofal iechyd heddiw ac mae’n amlwg gweld y brwdfrydedd, y gofal a’r angerdd sydd gan ein nyrsys dros eu cleifion a’u proffesiwn.
“Hoffwn ddiolch i bawb a fu’n ymwneud â chreu’r gyfres, y rhai o flaen y camera ac eraill y tu ôl i’r llenni.”
Mae’r gyfres ffeithiol galonogol hon yn cynnwys cast amrywiol o nyrsys sydd newydd gymhwyso yn ystod eu blynyddoedd ffurfiannol, yn dilyn eu straeon wrth iddynt ddatblygu ac yn dangos sut beth yw bod yn nyrs ifanc heddiw.
I ddilyn y straeon a darganfod beth mae'n ei olygu mewn gwirionedd i fod yn nyrs yng Nghymru heddiw gwyliwch Rookie Nurses ar BBCThree neu BBC iPlayer o 17 Mai 2023, ac ar BBC One Wales ar 22 Mai 2023.