Neidio i'r prif gynnwy

Prosiectau carlam yn trawsnewid iechyd a gofal yn ystod y pandemig

Mae prosiectau arloesol sydd wedi cynorthwyo i wella iechyd a gofal i bobl ledled Cymru yn ystod y pandemig yn cael eu harddangos gan y Comisiwn Bevan mewn digwyddiad ar-lein yfory (dydd Mercher, 30 Mehefin, 2021).

Er gwaethaf blwyddyn heriol tu hwnt, cafodd 24 o brosiectau Esiamplwyr Bevan eu cyflawni gan staff iechyd a gofal a wnaeth wahaniaeth i wasanaethau, canlyniadau a phrofiadau cleifion.

O fynd i'r afael â'r ôl-groniad o gleifion ar restrau aros, i hyrwyddo'r defnydd o ffisiotherapi dros fideo, aeth yr Esiamplwyr Bevan ati i ddatblygu ac addasu nifer o syniadau darbodus i gynnig datrysiadau i'r heriau a gyflwynwyd gan COVID-19 ac a ddeilliwyd ohono.

A gwnaethant hynny yn gynt na neb o'r blaen - gan roi eu harloesiadau dan brawf a chyflawni newid gyda chefnogaeth y Comisiwn mewn cwta chwe mis.

Dywedodd Helen Howson, Cyfarwyddwr Comisiwn Bevan, "Rwy'n falch iawn o'r grŵp ysbrydoledig hwn o Esiamplwyr Bevan sydd wedi ateb galwad i feddwl am ffyrdd newydd o weithio a fyddai'n cynorthwyo gwasanaethau iechyd a gofal yn uniongyrchol yn ystod y pandemig.

"Mae eu cyflawniadau yn dangos bod gwelliant ac arloesedd yn gryf yng Nghymru yn ogystal ag ymrwymiad ein staff i gyflawni canlyniadau mor rhagorol wrth wynebu adfyd ac yn ychwanegol i'w swyddi arferol.

"Dyma gyfnod y mae angen i ni arloesi datrysiadau yn fwy nag erioed ac mae'r digwyddiad arddangos yn gyfle arbennig nid yn unig i ddathlu eu llwyddiant ond i annog pobl i fabwysiadu a lledaenu eu gwaith ledled gweddill Cymru."

Bydd Digwyddiad Arddangos Arloesedd Esiamplwyr Bevan yn cael ei gynnal rhwng 9.30am - 5.30pm a bydd yn cynnwys wyth sesiwn, y mae pob un ohonynt yn cynnwys amrywiol brosiectau ar draws y saith bwrdd iechyd yng Nghymru.  Mae'r sesiynau yn rhad ac am ddim i'w mynychu a gellir hawlio tocynnau yma Digwyddiad Arddangos Esiamplwyr Bevan 2021 | Comisiwn Bevan 

Mae'r prosiectau yn cynnwys;

  • Ail-ddylunio gwasanaethau cleifion allanol ffisiotherapi drwy wrando ar brofiadau cleifion a staff yn ystod Covid-19 a pha newidiadau y dylid eu cadw a pha rai y dylid cael gwared arnynt (Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan)
  • Gwella cefnogaeth a chanlyniadau i bobl sydd â phoen cronig, a lleihau amseroedd aros, drwy ymgorffori'r Rhaglen Addysg i Gleifion yn y broses atgyfeirio (Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr)
  • Cefnogi pobl sydd â dementia i addasu i'r newidiadau yn sgil cyfyngiadau Covid-19 a mynd yn ôl i'w cymunedau gyda chyfres o ffilmiau yn dwyn y teitl Mentro Gyda'n Gilydd (Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro)
  • Datblygu gwasanaeth cefnogi rhestrau aros i sicrhau y cyfathrebir yn rhagweithiol a thosturiol â chleifion, gan gynnwys cynnig cefnogaeth a chyngor am eu cyflwr (Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda).

Mae rhestr lawn o'r prosiectau ar gael ar wefan y Comisiwn.