01 Gorffennaf 2022
Bydd cleifion yng Ngogledd Ceredigion nawr yn elwa o brosiect newydd a fydd yn cynnig cefnogaeth seicolegol i'r rhai sydd mewn perygl o gael problemau gyda'r galon.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi ariannu’r prosiect hwn sy’n cynnig cyngor a chefnogaeth i gleifion â ffactorau risg cardiofasgwlaidd.
Bydd y llwybr Seicoleg Iechyd Clinigol newydd hwn yn rhedeg yng Nghlwstwr Gogledd Ceredigion sy’n cynnwys saith meddygfa. Nod y cynllun yw atal clefydau cardiofasgwlaidd rhag gwaethygu a digwyddiadau cardiaidd gan gynnwys trawiad ar y galon a strôc.
Darperir cymorth mewn lleoliad gofal sylfaenol i gleifion sydd â dau neu fwy o’r ffactorau risg y gellir eu haddasu a ganlyn:
Mae’r llwybr yn cynnig cymorth emosiynol i helpu i wneud newidiadau i ffordd o fyw cleifion, gan gynnwys rheoli straen neu wella eu hiechyd a’u ffitrwydd, gan helpu yn y pen draw i leihau risgiau cardiofasgwlaidd.
Dywedodd Rachel Herrick, Seicolegydd Arweiniol Clinigol ar gyfer y llwybr: “Mae gorbryder, iselder a straen yn ffactorau risg ar gyfer cychwyniad, datblygiad a phrognosis problemau cardiaidd. Mae ffactorau ffordd o fyw gan gynnwys diet, cwsg, a lefelau gweithgaredd hefyd yn chwarae rhan fawr yn natblygiad clefydau cardiofasgwlaidd.
“Trwy ddarparu technegau a therapi seicolegol, gallwn atal a thrin clefydau cardiofasgwlaidd. Bydd dysgu rheoli straen, gorbryder ac iselder a dilyn ffordd iach o fyw yn lleihau risg yn sylweddol, yn ogystal â gwella ansawdd bywyd cyffredinol a chanlyniadau iechyd cyffredinol ein cleifion yng Ngogledd Ceredigion.”
Os hoffech hunan-gyfeirio at y llwybr hwn, ffoniwch a gadewch neges ar 01267 246917 neu e-bostiwch clinicalhealth.psychology.hdd@wales.nhs.uk.
(Yn y llun: Ffion Nelmes, Seicolegydd Cymorthwyol)