Neidio i'r prif gynnwy

Profion cerdded mewn bellach ar gael ar gyfer tref Aberystwyth

O ddydd Mercher 30 Medi 2020, gall pobl yn Aberystwyth sydd â symptomau COVID-19 gael mynediad at brofion (trwy apwyntiad o flaen llaw) trwy gyfleuster cerdded mewn dros dro yn y dref.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi trefnu’r gwasanaeth profi ychwanegol hwn yn ychwanegol at y cyfleuster gyrru drwodd sydd eisoes ar waith yng Nghanolfan Rheidol, oherwydd nid oes gan lawer o drigolion y dref, gan gynnwys myfyrwyr, eu cerbyd preifat eu hunain er mwyn cael mynediad i'r cyfleuster profi gyrru trwodd.

Mae'r cyfleuster wedi'i leoli yn hen adeilad meithrinfa y brifysgol (y tu ôl i Feddygfa Padarn, ond heb fod yn gysylltiedig ag ef), Rhiw Penglais, Aberystwyth a gellir cael mynediad iddo trwy'r llwybr a fydd ag arwydd clir i sicrhau bod pobl yn cyrraedd y lle iawn.

Dywedodd Alison Shakeshaft, Cyfarwyddwr Therapïau a Gwyddor Iechyd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydyn ni wedi rhoi’r cyfleuster ychwanegol hwn ar waith i sicrhau nad yw’r rhai yn y gymuned leol sydd heb eu cludiant eu hunain yn colli allan ar gael prawf pan fydd ei angen arnynt.

“Rydym yn gwerthfawrogi’r ymdrechion y mae pobl yn eu gwneud i helpu i amddiffyn ein gilydd yn ystod yr amser heriol hwn. Rwy’n annog pawb i aros yn wyliadwrus a dilyn y rheolau, gan gynnwys gwisgo gorchuddion wyneb lle bo angen, cadw pellter cymdeithasol, golchi dwylo’n rheolaidd, neu ddefnyddio glanweithydd dwylo os nad yw golchi dwylo yn bosibl, i’n helpu i fyw a gweithio ochr yn ochr â’r firws wrth reoli ei ledaeniad."

Dywedodd Eifion Evans, Prif Weithredwr Cyngor Sir Ceredigion, “Rydym yn diolch i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda am ddarparu gwasanaeth profi ychwanegol yng Ngheredigion. Anogir preswylwyr a myfyrwyr fel ei gilydd i ddefnyddio'r gwasanaeth hwn er lles iechyd pawb sy'n byw yn ein sir ac amddiffyn y bregus. Mae hwn yn amser tyngedfennol i ni ddilyn y rheolau a chadw Ceredigion yn ddiogel. ”

Rhaid i unrhyw un sydd â symptomau’r firws (peswch parhaus newydd, tymheredd uchel neu golli / newid blas neu arogl) archebu prawf cyn gynted â phosibl trwy borth ar-lein y DU yn www.gov.wales/coronavirus.

Gwnewch yn siŵr wrth archebu eich prawf eich bod yn dewis yr opsiwn sydd ei angen arnoch (er enghraifft, dim ond os nad ydych yn gallu teithio yn eich cerbyd eich hun i'r cyfleuster gyrru drwodd i archebu yr opsiwn cerdded mewn.) Os ydych chi'n mynychu'r ganolfan cerdded mewn mae'n rhaid i chi wisgo gorchudd wyneb.

Mae'n ofynnol i fyfyrwyr prifysgol sydd â symptomau COVID-19, wrth archebu prawf, ddarparu'r cyfeiriad lleol dros dro y maent yn byw ynddo tra'u bod yn fyfyrwyr ym mhrifysgol Aberystwyth ac nid eu cyfeiriad cartref arferol.

Peidiwch ag archebu prawf os nad oes gennych symptomau COVID-19 a pheidiwch â mynychu heb wneud apwyntiad yn gyntaf gan na fydd yn bosibl eich gweld heb apwyntiad.

Dilynwch y canllawiau hunan-ynysu diweddaraf sydd i'w gweld yma.

Diolch am helpu a #CadwCeredigionynDdiogel