Mae Richard Jones, dyn ffit ac iach o Llanelli yn diolch i’w ddyweddi Vicky Williams am achub ei fywyd pan aeth yn sâl iawn gyda COVID-19.
Ar ôl treulio'r diwrnod yn gweithio yn yr ardd, datblygodd Richard dymheredd. Gan feddwl ei fod oherwydd yr haul, fe wnaeth ei anwybyddu. Fodd bynnag, dros yr wythnos ganlynol dechreuodd ei symptomau ddwysau.
Dywed Richard, sy’n gweithio fel Swyddog Technegol Trydanol Superyacht, “Yn ystod y nosweithiau, byddwn yn teimlo’n oer iawn, yn chwysu’n arw, er fy mod yn hynod gynnes i gyffwrdd. Cefais beswch yr wythnos flaenorol ond dim byd eithafol i beri unrhyw bryder ac roeddwn wedi teimlo'n dda tan y diwrnod yr oeddwn wedi bod yn paentio yn y cefn.
“O fewn ychydig ddyddiau, daeth fy mheswch yn fwy difrifol yn gyflym a byddwn yn cael ffitiau pesychu gwael iawn trwy gydol y dydd a’r nos. Roeddem yn ymwybodol bod peswch a thymheredd yn symptomau nodweddiadol o COVID-19 felly roeddem o'r farn mai dyma fyddai'r achos. Dim ond yn lleol yr oeddwn i wedi bod yn siopa bwyd ac ar wahân i hynny roeddwn wedi bod yn hunan-ynysu beth bynnag felly fe wnaethom barhau i wneud hynny gan obeithio y byddai fy nghyflwr yn gwella ar ei ben ei hun yn naturiol.
“Fodd bynnag, ymhen ychydig ddyddiau gwaethygodd yn gyflym a dechreuais besychu fflem a gwaed. Roedd fy nyweddi Vicky yn bryderus iawn ond roeddwn i wir yn meddwl fy mod i'n iawn ac wedi codi firws arferol. Roeddwn i wedi colli llawer o bwysau oherwydd diffyg chwant bwyd a hefyd roedd fy ngwedd yn welw iawn. Ar un adeg, nododd Vicky hefyd fod gan fy ngwefus amlinelliad glas - yr ydym bellach yn gwybod ei fod yn arwydd o ddiffyg ocsigen. ”
Ar ôl i Vicky fod yn dyst i Richard yn pesychu gwaed, fe ffoniodd 111 ar unwaith, a’i cynghorodd i fynd i barth coch Ysbyty Tywysog Philip ar unwaith. Meddai Richard, “Rwy'n teimlo bod ei gweithredoedd wedi helpu i achub fy mywyd trwy godi'r larwm gyda'r tîm meddygol.”
“Ar ôl cyrraedd yr ysbyty, roedd fy mhwysedd gwaed a chyfradd y galon yn bryderus o uchel sy'n arwydd o haint. Roedd fy lefel ocsigen hefyd wedi gostwng i 89, rwy’n credu bod unrhyw beth o dan 93 yn cael ei ystyried yn bryder a disgrifiwyd fy mhelydr-x yn ddiweddarach fel “edrych ar wydr wedi’i chwalu.
“Cefais swab ceg i brofi am COVID-19 a chefais fy nghynghori ar y pwynt hwn ei bod yn debygol mai dyma a gefais. Roeddwn hefyd wedi bod yn profi poen eithafol yn fy ochr dde,” meddai Richard, “yn dilyn yr holl ganlyniadau profion daethpwyd i’r casgliad bod gen i niwmonia difrifol eilaidd o ganlyniad i COVID-19. Roedd yn ddifrifol iawn ac ar un adeg ystyriwyd fy rhoi yn yr Uned Gofal Dwys i gynorthwyo gyda fy anadlu. ”
Arhosodd Richard yn yr ysbyty am gyfanswm o 11 diwrnod. Cafodd ei drin â gwrthfiotigau a steroidau trwy ddrip IV a derbyniodd ocsigen am saith diwrnod. Cafodd gefnogaeth ffisiotherapi hefyd i helpu gyda'r poenau pesychu. Bellach adref ers dros bedair wythnos, dywed fod ei gryfder a'i symudedd wedi gwella'n fawr, ond dim ond 50% yn ôl i'w normal y mae ei frest yn teimlo.
Mae Richard yn gwerthfawrogi cefnogaeth ei ddyweddi Vicky a'i deulu, yn ogystal â'r tîm yn Ysbyty Tywysog Philip gyda’u cymorth i ddod dros ei brofiad gyda niwmonia COVID.
“Roedd yr holl staff y gwnes i eu cyfarfod yn PPH yn rhagorol yn enwedig yr Athro Keir Lewis a'i gyd-feddygon. Hefyd diolch enfawr i'r Prif Nyrsys Ward Laura ac Amber a'r holl staff a weithiodd gyda nhw yn ystod fy arhosiad gan gynnwys y cynorthwywyr gofal iechyd a staff y gegin.
“Er eu bod nhw yn gwisgo PPE o’u corun i’w sawdl bob tro y gwnes i gwrdd â nhw, roeddwn i’n cofio eu lleisiau a pha mor gefnogol ac anogol oedden nhw bob tro y gwnes i gwrdd â nhw. Fe wnaethant amser anodd iawn yn haws ei reoli trwy fod yn normal ar adeg anarferol. ”
Dywedodd ei ddyweddi Vicky, “Roedd yn anodd iawn methu ymweld â Richard gan ei fod wedi bod mor sâl ac roeddwn i eisiau rhoi cwtsh iddo a dweud wrtho y byddai popeth yn iawn. Fe ddefnyddion ni dechnoleg gymaint â phosib i weld ein gilydd fwy neu lai ac roedden ni mor hapus pan lwyddodd i ddod adref o'r diwedd. Rydyn ni fel teulu yn hynod ddiolchgar i’r holl staff yn PPH am yr help y gwnaethon nhw ei ddarparu yn ystod amser Richard yn yr ysbyty a’r gefnogaeth mae wedi ei gael ers hynny – diolch o waelod ein calonnau. ”
Wrth grynhoi ei brofiad, dywed Richard, “Peidiwch â bod ofn gwirio'ch symptomau cyn gynted â phosibl. Roeddwn i wedi gadael fy un i yn rhy hwyr,” ac “ i barhau i ddilyn cyngor y Llywodraeth ynglŷn â COVID, aros adref ac aros yn ddiogel. Y cyfan roeddwn i wedi'i wneud oedd siopa bwyd hanfodol. Nid yw COVID yn gwahaniaethu yn erbyn unrhyw un. Roeddwn yn ifanc, yn heini ac yn iach a gallwn fod wedi marw oni bai nad oedd fy nyweddi yn derbyn pan ddywedais wrthi fy mod yn “iawn” a hefyd sgiliau anhygoel y tîm meddygol yn Ysbyty Tywysog Philip. ”