Neidio i'r prif gynnwy

Prif Weithredwr Hywel Dda yn canmol "ymdrech ragorol"

Diweddariad COVID Hywel Dda

Mae Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Steve Moore, wedi talu teyrnged i “ymdrechion rhagorol” ein partneriaid, contractwyr, cymunedau lleol, staff a gwirfoddolwyr wrth i nifer o ysbytai maes dros dro gael eu trosglwyddo’n ffurfiol i helpu yn y frwydr yn erbyn COVID-19.

Mae’r saith ysbyty – sydd wedi’u troi o fod yn ganolfannau hamdden y cynghorau, cyfleusterau chwaraeon a hamdden ac ysgol – wedi’u cynllunio a’u datblygu’n gyflym gyda’n sefydliadau partner ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat, er mwyn ein galluogi i ofalu am gleifion coronafeirws ledled Sir Benfro, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin.

Wedi gwaith adeiladu a gyflawnwyd mewn ychydig wythnosau, gyda chontractwyr yn aml yn gweithio sifftiau dydd a nos, dyma’r ysbytai:

  • Ysbyty Enfys Caerfyrddin – yng Nghanolfan Hamdden Caerfyrddin 
  • Ysbyty Enfys Llanelli – yng Nghanolfan Hamdden Llanelli 
  • Ysbyty Enfys Selwyn Samuel – yng Nghanolfan Selwyn Samuel, Llanelli 
  • Ysbyty Enfys Scarlets – ym Mharc Y Scarlets, Llanelli 
  • Ysbyty Enfys Carreg Las – yn Bluestone, Sir Benfro 
  • Ysbyty Enfys Aberteifi – yng Nghanolfan Hamdden Aberteifi 
  • Ysbyty Enfys Aberystwyth – yng Nghanolfan Hamdden Plascrug ac Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig

Dewiswyd yr enwau hyn am sawl rheswm – i ddarparu cysondeb i’r cymunedau yr ydym yn gwasanaethu gyda’n cydweithwyr yn y Gogledd; er mwyn cydnabod y lleoliad daearyddol ac hefyd er mwyn gallu gwahaniaethu pan mae sawl safle mewn un tref; cydnabyddiaeth o ddiben arferol yr adeiladau; parch at ein diwylliant a’n hiaith ac, yn bwysig, adlewyrchu’r symbol y mae ein cymunedau wedi’i ddewis ar gyfer y pandemig hwn – yr enfys, symbol o obaith. Bydd pob un o’r safleoedd yn cael eu trosglwyddo o’r contractwyr i’r bwrdd iechyd erbyn dydd Llun 27 Ebrill ac yn cael eu defnyddio yn ôl yr angen.

Meddai Steve Moore, Prif Weithredwr Hywel Dda: “Mae ymdrechion ein cydweithwyr a'n partneriaid mewn awdurdodau lleol, busnesau preifat gan gynnwys Bluestone a Parc Y Scarlets, contractwyr a'n staff ein hunain, yn hollol ryfeddol, ac rwyf am ddiolch o waelod calon i bawb am ddod ynghyd a chyflawni hyn yng nghanol pandemig byd-eang difrifol iawn.

“Fel bwrdd iechyd rydym yn barod am yr heriau sydd o'n blaenau ac rydym am i'n cymunedau fod yn sicr ein bod wedi gwneud popeth o fewn ein gallu i gyrraedd y pwynt hwn yn seiliedig ar ragdybiaethau cynllunio a modelu cenedlaethol.

“Yr hyn yr ydym wedi'i weld mewn gwledydd eraill ledled y byd yw ei bod yn anodd iawn rhagweld ar hyn o bryd sut y bydd y feirws hwn yn ymddwyn yng Nghymru, ac rydym yn parhau i ddysgu o rannau eraill o'r wlad sydd eisoes wedi profi galw mawr ar eu gwasanaethau, yn enwedig yn y de, a byddwn yn addasu ac yn newid ein cynlluniau yn unol â hynny ar sail anghenion ein poblogaeth.

“Dydyn ni byth yn mynd i wybod yn union sut y bydd y pandemig hwn yn datblygu'n lleol nes i ni gyrraedd pob cam ac fe fydd angen i ni fod mor hyblyg â phosib ynglyn â sut rydym yn defnyddio'r cyfleusterau hyn i ofalu am ein poblogaeth. Mae'n bwysig ein bod yn tynnu ar yr holl adnoddau sydd gennym i ofalu am bobl ar draws y system gofal iechyd gyfan, ac mae'r ysbytai maes hyn yn adnoddau gwych i ni allu eu defnyddio.

“Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o’r prosiectau hyn am eu hymdrech a’u hymrwymiad rhagorol.”

Ychwanegodd Arweinydd Cyngor Sir Penfro, David Simpson: “Rwy’n falch iawn bod y prosiect cyfan wedi digwydd mewn cyn lleied â 26 diwrnod – o’r foment gyntaf yr oedd y cyngor yn rhan o gwaith, i’r prosiect gorffenedig

“Mae’r trawsnewidiad yn go arbennig a bydd o gymorth mawr yn y frwydr yn erbyn coronafeirws.

“Dyma ymdrech wirioneddol odidog gan bawb sy’n cymryd rhan ac mae'n dangos yr hyn y gellir ei gyflawni pan fydd pawb yn cydweithio at yr un nod.

“Yn wir, o’r cychwyn cyntaf, mae hon wedi bod yn enghraifft wefreiddiol o weithio mewn partneriaeth rhyngom ni - yr awdurdod lleol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac wrth gwrs Bluestone ei hun am sicrhau bod y safle ar gael yn y lle cyntaf.”

Ychwanegodd William McNamara, Prif Weithredwr Bluestone: “Rydym yn falch o fod yn gweithio ochr yn ochr â Hywel Dda a Chyngor Sir Penfro i ddarparu Ysbyty Enfys Carreg Las. “

“Mae cryfder yr awydd dros y mis diwethaf wedi bod yn aruthrol – mae tîm Bluestone, Cyngor Sir Penfro a’r contractwyr o Morgan Sindall wedi mynd tu hwnt i’r disgwyl i gyflawni’r trawsnewidiad. Rydym yn falch o allu chwarae ein rhan i helpu’r rhai yr effeithir arnynt yn bersonol gan y feirws.”

Meddai Jon Daniels, Rheolwr Cyffredinol Rygbi y Scarlets: “Dim ond rhai wythnosau’n ôl, roedd y chwaraewyr yn ymarfer yn y ‘sgubor, a nawr mae’r cyfleuster yn barod fel ysbyty maes. Mae wedi bod yn anhygoel gweld pa mor gyflym y mae’r safleoedd yn y stadiwm wedi’u newid ac mae hynny oherwydd gwaith diflino pob un sydd wedi cymryd rhan, o gontractwyr lleol, gwirfoddolwyr a’n staff yma ym Mharc y Scarlets. Mae'r gymuned wedi tynnu at ei gilydd i wireddu hyn.”

Ychwanegodd Arweinydd Cyngor Tref Llanelli, y Cynghorydd Shahana Najmi: “Cyflwynwyd cyfleuster bowlio dan do y Cyngor Tref yng Nghanolfan Selwyn Samuel yn ddi-rent i’r Bwrdd Iechyd, ac mae newidiadau sylweddol wedi digwydd y tu mewn er mwyn hwyluso angen y Bwrdd Iechyd am welyau ychwanegol.

“Rydym yn profi amseroedd anodd iawn, ac mae’r Cyngor Tref yn falch o ddarparu unrhyw gymorth y gall ym mrwydr y Bwrdd Iechyd yn erbyn COVID-19. Rwy’n talu teyrnged i bawb wnaeth weithio’n ddi-flino i drawsnewid y ganolfan i fod yn Ysbyty Enfys Selwyn Samuel, a dymunaf ddiolch i’r gweithwyr gofal iechyd, y staff rheng flaen a’r gwirfoddolwyr am eu gwasanaeth gwerthfawr i’n cymunedau.”

Meddai Eifion Evans, Prif Weithredwr Cyngor Sir Ceredigion: “Mae Cyngor Sir Ceredigion yn falch o fod yn cefnogi Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn y gwaith o sefydlu’r cyfleusterau newydd hyn. Mae medru trosglwyddo’r adeiladau cyn pen tair wythnos ers dechrau’r gwaith yn dangos ymdrech aruthrol. Hoffwn ddiolch i holl staff y Bwrdd Iechyd a’r Cyngor, a’r holl gontractwyr lleol sydd wedi gweithredu ar fyr rybudd, am eu gwaith caled yn troi dwy ganolfan hamdden ac un ysgol i fod yn gyfleusterau gwelyau ysbyty ychwanegol, mewn llai na thair wythnos.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd Cyngor Sir Gar: “Rwy’n falch o’r modd yr ydym wedi cyd-dynnu i wireddu’r cyfleusterau hyn, ond fy unig obaith yw na fydd eu hangen.”