28 Chwefror 2025
Mae Hanna Griffiths, prentis gofal iechyd y GIG yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin, wedi’i dewis yn Llysgennad Prentisiaeth y Gymraeg gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Ei rôl, fel Llysgennad Prentisiaeth Coleg Cymraeg Cenedlaethol, yw hyrwyddo dwyieithrwydd yn y gweithle ac annog eraill i wneud eu prentisiaeth yn ddwyieithog drwy greu cynnwys ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol y Coleg Cymraeg.
Mae Hanna yn ei hail flwyddyn o’i Chymhwyster Gofal Iechyd Clinigol Lefel 2 y mae’n ei wneud trwy gyfrwng y Gymraeg, gyda chefnogaeth ac anogaeth Lucy Breckon a'i thiwtoriaid o Goleg Sir Benfro. Gyda'r Gymraeg yn iaith gyntaf iddi, mae Hanna yn ei chael hi'n bwysig i ddefnyddio'r Gymraeg bob dydd, yn enwedig wrth gyfathrebu â chleifion ar y ward.
Dywedodd Hanna “Mae gan lawer o’n cleifion ar y ward ddementia neu glefyd Alzheimer, sy’n aml yn golygu mai dim ond yn eu hiaith gyntaf y gallant gyfathrebu. Mae siarad â’n cleifion Cymraeg yn eu dewis iaith yn bwysig i wneud iddynt deimlo’n fwy cyfforddus.”
Ychwanegodd Amanda Glanville, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Datblygu Pobl ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda “Rwy’n falch iawn o glywed am ddewis Hanna yn llysgennad. Mae’n dangos yn glir ei hangerdd dros y Gymraeg a pha mor bwysig ydyw i’n cleifion.”
Mae Coleg Cymraeg wedi penodi cyfanswm o 16 llysgenhadon prentisiaeth newydd ledled Cymru, ac mae Elin Williams, Rheolwr Marchnata'r Coleg yn falch o weld y cynllun yn tyfu. Dywedodd hi:
"Mae'r cynllun llysgenhadon prentisiaeth yn mynd o nerth i nerth gyda nifer o ddarparwyr prentisiaethau a phrentisiaid yn frwdfrydig iawn i fod yn rhan o'r cynllun. Rydym bellach yn cydweithio â darparwyr prentisiaethau o bob rhan o Gymru, ac mae'n wych gweld y berthynas yn datblygu.
"Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda Hanna a'r llysgenhadon newydd eraill ac yn mawr obeithio y byddant yn gallu ysbrydoli eu cyfoedion yn eu gweithle a thu hwnt i ddefnyddio a bod yn falch o'u sgiliau dwyieithog."
Mae defnyddio’r Gymraeg bob dydd yn hollbwysig i gadw sgiliau Hanna, er mwyn iddi allu siarad â chydweithwyr, cleifion ac ymwelwyr sy’n siarad Cymraeg, gyda’r nod o wella eu profiadau yn yr ysbyty. Mae hi wedi creu blog, ar gyfer Coleg Sir Benfro, am ei phrofiadau ar y ward a phwysigrwydd defnyddio’r Gymraeg.
I ddarganfod mwy am ba brentisiaethau y gall y bwrdd iechyd eu cynnig i chi, ewch i: Academi Brentisiaeth - Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda