Neidio i'r prif gynnwy

Practis Deintyddol Stryd Marged i ddychwelyd contract y GIG

27 Mai 2022

Gyda gofid y bydd Practis Deintyddol Stryd Marged, Rhydaman, yn cau ar 31 Gorffennaf 2022.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn gweithio'n agos gyda {My} Dentist i roi gwybodaeth i gleifion a oedd wedi derbyn gofal yn y Practis yn flaenorol am eu gofal parhaus, a'r opsiynau sydd ar gael iddynt tra bod y Bwrdd Iechyd yn gweithio i ddod o hyd i ddarparwr gwasanaeth newydd ar gyfer yr ardal. Bydd y Practis yn darparu unrhyw ofal brys sydd ei angen ar gleifion tan 31 Gorffennaf 2022 a bydd yn sicrhau bod unrhyw driniaeth yn cael ei chwblhau.

Dywedodd Jill Paterson, Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol, Cymunedol a Gofal Hirdymor Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Hoffai’r Bwrdd Iechyd ddiolch i gleifion am y cymorth y maent wedi’i roi i'r Practis dros y blynyddoedd a gwerthfawrogi’r effaith y bydd hyn yn ei gael ar y boblogaeth leol.

“Mae’r Bwrdd Iechyd yn gweithio i ddod o hyd i ateb hirdymor sy’n sicrhau gwasanaethau Deintyddol GIG parhaus.”

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â'ch apwyntiadau, mae croeso i chi gysylltu â'r Practis. Ar ôl i'r practis gau, dylai cleifion sy'n dioddef poen dannedd gysylltu â 111 i gael apwyntiad mynediad brys sydd ar gael 7 diwrnod yr wythnos.

I gael gwybodaeth am sut y gallwch gael mynediad at ofal deintyddol y GIG mewn practis arall, ewch i wefan  https://biphdd.gig.cymru/gofal-iechyd/gwasanaethau-a-thimau/deintyddol/ neu cysylltwch â’r Tîm Gwasanaethau Deintyddol ar 0300 303 8322.

Gofynnwn yn garedig i gleifion sy’n glaf GIG sy’n gysylltiedig â Phractis Deintyddol Stryd Marged ymatal rhag cysylltu â phractisau eraill yn yr ardal ar hyn o bryd. Fel arall, gallwch gysylltu â’r bwrdd iechyd drwy anfon e-bost at HDHB.Dental.hdd@wales.nhs.uk neu drwy ffonio 0300 303 8322 i gael eich rhoi ar restr cadw ar gyfer y practis newydd unwaith y bydd y gwasanaeth yn ei le.