13 Mehefin 2024
Mae pengwin cyfeillgar yn ardal Hywel Dda yn helpu i dawelu meddyliau plant sy'n derbyn gofal gan y tîm meddygaeth niwclear.
Gall y geiriau ‘meddygaeth niwclear’ a ‘sgan’ swnio’n frawychus beth bynnag fo’ch oedran – ond mae hyn yn arbennig o wir yn achos plant.
Mae tîm Meddygaeth Niwclear Ysbyty Llwynhelyg wedi creu fideo i blant, sy'n gwneud y profiad yn llawer llai brawychus.
Mae'r gwasanaeth yn gofalu am blant rhwng tri mis a 18 oed o bob rhan o ardal Hywel Dda, gan wasanaethu Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.
Gall sganiau meddygaeth niwclear helpu'r meddygon i edrych ar eich arennau, eich coluddyn neu'ch esgyrn. Mae'n defnyddio ymbelydredd gama sydd fel meddygaeth arbennig. Yna gall y camera gama dynnu lluniau o ble rydych chi wedi cael y feddyginiaeth. Mae'r sgan yn cymryd tua 30 munud.
Helpodd Rachael Cunliffe, Technolegydd Clinigol, i greu stori Walter y Pengwin, sy'n cael ei hadrodd trwy fideo. Meddai: “Cafodd y fideo ei greu’n bennaf ar gyfer plant rhwng dwy a chwe blwydd oed gan i ni weld mai dyma’r oedran sy’n gallu bod yn anoddaf iddyn nhw ddeall beth sy’n digwydd iddyn nhw.”
Roedd y tîm yn cydnabod bod cyfle i greu rhywbeth y gallai plant ei wylio cyn dod i'w sgan i helpu i ddeall y broses.
Bu staff radioleg yn gweithio gydag arbenigwyr chwarae o Ysbyty Glangwili, pediatregydd o Gaerdydd, Tîm yr Iaith Gymraeg, a’r Tîm Cyfathrebu Digidol i greu’r stori a’r fideo.
Parhaodd Rachael: “Mae’r fideo yn dangos antur Walter i lawr i ysbyty Llwynhelyg i gael sgan. Mae Walter yn nerfus ond mae’n dawel ei feddwl yn gyflym pan gaiff groeso cynnes gan y staff, pan fydd yn gweld y peiriant, ac yn siarad am yr hyn sy’n mynd i ddigwydd iddo.”
Enillodd y fideo yn ddiweddar yng nghategori Tîm Arloesol y Flwyddyn yng ngwobrau Cymdeithas Meddygaeth Niwclear Prydain (BNMS).
Dywedodd Rachel: “Roedd y gwobrau yn brofiad gwych iawn. Rwy’n falch iawn o’r hyn y mae ein tîm wedi’i gyflawni. Roedd yn wych gallu dangos yr hyn rydym wedi’i greu fel tîm ac ysbrydoli adrannau eraill nid yn unig ledled y DU ond hefyd o Ewrop. Mae gallu helpu plant drwy'r hyn a all fel arfer yn gyfnod llawn straen wedi bod yn hynod werth chweil. Rwy’n hapus bod ein fideo wedi ein helpu i gyflawni hyn.”
Dywedodd James Severs, Cyfarwyddwr Gweithredol Therapïau a Gwyddor Iechyd “Llongyfarchiadau i’n timau sy’n ymwneud â’r prosiect hwn, rydym mor falch o’r cydweithio a’r cyflawniad. Mae’n bwysig i ni fod cleifion ifanc yn teimlo’n ddiogel ac yn gartrefol pan fyddant yn ein gofal ac rydym wrth ein bodd bod Walter y Pengwin yno i helpu.”