Neidio i'r prif gynnwy

Penodi'r Athro Philip Kloer yn Brif Swyddog Gweithredol

22 Hydref 2024

Heddiw, dydd Mawrth 22 Hydref, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi cyhoeddi ei Brif Swyddog Gweithredol newydd.

Yn dilyn proses gystadleuol wnaeth ddenu ymgeiswyr o bedwar ban byd, mae’r Athro Philip Kloer, sydd wedi dal y rôl dros dro ers mis Chwefror 2024, yn cael ei benodi i’r swydd barhaol ar unwaith.

Dywedodd Dr Neil Wooding, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rwy’n falch iawn o gyhoeddi penodiad Phil fel ein Prif Swyddog Gweithredol nesaf. Mae Phil yn arweinydd profiadol a medrus sydd wedi ymroi bron i ugain mlynedd i Hywel Dda a’r sefydliadau a’i rhagflaenodd. Yn glinigwr profiadol, mae ein staff, ein partneriaid a’n cleifion fel ei gilydd yn ei hoffi a’i barchu.”

Ymunodd Phil â Hywel Dda yn 2005 fel meddyg anadlol yn Ysbyty Tywysog Philip. Yn ystod ei amser gyda’r bwrdd iechyd, bu’n dal nifer o uwch swyddi arweiniol, gan gynnwys Cyfarwyddwr Strategaeth Glinigol a Chyfarwyddwr Gweithredol dros dro Gwasanaethau Gofal Sylfaenol, Cymunedol ac Iechyd Meddwl, cyn ei rôl fel Cyfarwyddwr Meddygol a Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol. Ers mis Chwefror eleni mae wedi dal swydd Prif Swyddog Gweithredol dros dro, swydd y cafodd ei benodi iddi am gyfnod o hyd at flwyddyn, yn dilyn penodiad Steve Moore yn Brif Weithredwr Bwrdd Gofal Integredig GIG Dyfnaint.

Mae gan Phil brofiad sylweddol o arwain rhaglenni datblygu a newid strategaeth system gyfan ar raddfa fawr ac arweiniodd ein rhaglen Trawsnewid Gwasanaethau Clinigol, a strategaeth iechyd a gofal 20 mlynedd y Bwrdd Iechyd – Canolbarth a Gorllewin Cymru Iachach. 

Aeth Dr Wooding ymlaen i ddweud: “Fel bwrdd iechyd, fel sefydliadau eraill y GIG, rydyn ni'n wynebu llawer o heriau a chyfleoedd yn ystod y blynyddoedd i ddod. Rwy’n hyderus bod gan Phil y dycnwch a’r sgil i’n llywio drwy’r heriau hyn gyda thosturi a charedigrwydd, ac edrychaf ymlaen at gydweithio ag ef yn y dyfodol.”

Ychwanegodd yr Athro Kloer, sydd newydd ei benodi’n Brif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rwy’n falch iawn o dderbyn rôl Prif Swyddog Gweithredol Hywel Dda. Mae’n fraint wirioneddol cael arwain a gweithio ochr yn ochr â’n cymuned o 13,000 o weithwyr ymroddedig – pob un â’r nod cyffredin o wella iechyd a llesiant pobl sy’n byw ac yn gweithio yn y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.

"Fel bwrdd iechyd, a sector, rydym yn wynebu sawl her, ond rwy'n hyderus y byddwn yn parhau i flaenoriaethu a chyflawni ar gyfer ein cymunedau - a sicrhau bod ein pobl a'n cleifion yn parhau i fod wrth galon popeth a wnawn."

DIWEDD