Neidio i'r prif gynnwy

Penodi Neil Prior yn Aelod Annibynnol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Tachwedd 27 2025

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi penodi Neil Prior yn Aelod Annibynnol newydd (Cymunedol). Daw ei benodiad yn dilyn proses recriwtio gystadleuol a gynhaliwyd yn gynharach eleni.

Mae Neil yn olynu Anna Lewis, sy’n rhoi’r gorau i’r rôl ar ddiwedd y flwyddyn. Mae Anna wedi gwasanaethu yn y rôl gydag ymroddiad mawr ers bron i wyth mlynedd, sef uchafswm deiliadaeth aelod annibynnol. Yn ystod ei chyfnod fel aelod annibynnol, cryfhaodd Anna gysylltiadau’r Bwrdd â chymunedau ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Hyrwyddodd lais cleifion a'r cyhoedd yn ogystal â hyrwyddo cynhwysiant a bod yn agored.

Mae Neil, sy’n dechrau yn y rôl ar 1 Ionawr 2026, yn dod â phrofiad eang mewn gwasanaethau cyhoeddus, arweinyddiaeth ac ymgysylltu â’r gymuned. Cafodd ei ethol yn Gynghorydd Sir Annibynnol ym mis Mai 2017. Yn fwyaf diweddar, gwasanaethodd fel Aelod Cabinet dros Wella Corfforaethol a Chymunedau yng Nghyngor Sir Penfro. Yn y rôl honno, ailfodelodd Neil raglen drawsnewid y cyngor a sicrhaodd fuddsoddiad mewn arloesi technoleg. Bu hefyd yn arwain Rhaglen Weinyddol gyntaf y cyngor, a oedd yn nodi blaenoriaethau’r cabinet clymblaid.

Camodd Neil yn ôl o’i rôl yn y Cabinet ym mis Mai 2025 i ganolbwyntio ar ddatblygu cymunedol a’i waith ehangach. Yn ogystal â'i ddyletswyddau fel Cynghorydd, mae'n hwylusydd a hyfforddwr ar Raglenni Arwain Cymdeithas Llywodraeth Leol a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i Gynghorwyr. Mae hefyd yn gwasanaethu fel Cyfarwyddwr Anweithredol gyda Grŵp Pobl, cymdeithas dai fwyaf Cymru, ac mae’n aelod gweithgar o gyfoedion sy’n cefnogi gwaith gwella llywodraeth leol.

Ar hyn o bryd mae Neil yn cadeirio ei Gyngor Cymuned lleol ac yn flaenorol bu’n gadeirydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Benfro. Cafodd ei ymroddiad i arweinyddiaeth leol ei gydnabod yn genedlaethol pan gyrhaeddodd rownd derfynol Gwobrau Cynghorwyr LGIU 2021.

Dywedodd Dr Neil Wooding, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae’n bleser mawr gennyf groesawu Neil i’r Bwrdd. Mae’n dod â dealltwriaeth ddofn o flaenoriaethau cymunedol a phrofiad cryf mewn llywodraeth leol. Bydd mewnwelediad a brwdfrydedd Neil dros welliant a arweinir gan y gymuned yn ein helpu i sicrhau canlyniadau gwell i bobl canolbarth a gorllewin Cymru.

“Hoffwn hefyd ddiolch i Anna Lewis am ei gwasanaeth eithriadol dros bron i wyth mlynedd. Mae ei chyfraniadau meddylgar a’i thosturi wedi helpu i lunio ein gwaith ymgysylltu cymunedol. Rydym yn hynod ddiolchgar am ei hymrwymiad, ei dirnadaeth, a’i chyfraniad gwerthfawr i’n Bwrdd Iechyd a’n cymunedau.”

Dywedodd Neil Prior: “Mae’n fraint ymuno â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda fel Aelod Annibynnol dros Gymuned. Rwy’n angerddol dros leisiau lleol a sicrhau bod cymunedau’n helpu i lunio eu hiechyd a’u lles. Edrychaf ymlaen at weithio gyda chydweithwyr i ysgogi gwelliant a chyflawni’r canlyniadau gorau i’n rhanbarth.”

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gyfrifol am gynllunio a darparu gwasanaethau GIG ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Mae'r Bwrdd yn darparu arweinyddiaeth, yn gosod strategaeth, ac yn sicrhau bod gwasanaethau'n diwallu anghenion pobl leol. Mae’n cynnwys Aelodau Annibynnol, sy’n dod â safbwyntiau o’r gymuned a bywyd cyhoeddus ehangach, a Chyfarwyddwyr Gweithredol, sy’n rheoli gweithrediadau o ddydd i ddydd a gwasanaethau clinigol y sefydliad. Gyda’i gilydd, maent yn sicrhau bod penderfyniadau’n agored, yn atebol, ac yn canolbwyntio ar wella iechyd a lles y boblogaeth.

DIWEDD