Neidio i'r prif gynnwy

Penodi Eleanor Marks yn Is-gadeirydd Hywel Dda

30 Tachwedd 2023

Mae Eleanor Marks wedi’i phenodi’n Is-Gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, a bydd yn dechrau yn ei rôl ym mis Chwefror 2024.

Mae Eleanor yn arweinydd profiadol ac, yn ystod ei gyrfa, mae wedi dal nifer o uwch swyddi ar draws ystod eang o sefydliadau yn y sector cyhoeddus yng Nghymru. Ar hyn o bryd mae’n Gyfarwyddwr Cymru yn Ofcom, rôl y mae wedi’i dal ers 2018.  

Mae ei rolau blaenorol yn cynnwys uwch swyddi o fewn Llywodraeth Cymru, Awdurdod Datblygu Cymru a Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru. Yn ystod ei chyfnod yn Llywodraeth Cymru, cefnogodd banel o arbenigwyr yn eu hadolygiad seneddol o iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Mae Eleanor yn byw yn Sir Gâr ac yn medru’r Gymraeg. Mae’n aelod o Sefydliad y Cyfarwyddwyr, yn ymddiriedolwr yn Prime Cymru ac yn Gymrawd o’r Gymdeithas Frenhinol er Hybu’r Celfyddydau, Gweithgynhyrchion a Masnach.

Wrth longyfarch Eleanor ar ei phenodiad, dywedodd Judith Hardisty, Cadeirydd dros dro Hywel Dda: “Rwy’n falch iawn o groesawu Eleanor i Hywel Dda ac edrychaf ymlaen at weithio gyda hi. Mae hon yn swydd arweiniol bwysig ar ein Bwrdd, ac rwy’n hyderus ei bod yn ddiogel yn nwylo Eleanor sy’n weithiwr proffesiynol profiadol y mae llesiant ein cymunedau yn bwysig iawn iddi. Yn ogystal â’i phrofiad proffesiynol sy’n ei gwneud yn ymgeisydd rhagorol, mae Eleanor hefyd yn aelod o’n cymuned leol ac mae ganddi brofiad uniongyrchol o’n gwasanaethau. Dymunaf y gorau i Eleanor yn ei rôl newydd.”

Meddai Eleanor: “Mae iechyd a llesiant ein cymunedau yn arbennig o bwysig i mi, ac rwyf wrth fy modd y byddaf yn gallu chwarae rhan yn y gwaith o lunio sut rydym yn diwallu anghenion ein cymunedau lleol yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro – ‘nawr ac i’r dyfodol. Edrychaf ymlaen at gamu i’r rôl yn y flwyddyn newydd a gweithio ochr yn ochr ag Aelodau Annibynnol profiadol y Bwrdd am y pedair blynedd nesaf.”

 

Mae Eleanor yn olynu Judith Hardisty i’r swydd. Bu Judith yn Is-gadeirydd rhwng 2017 a 1 Tachwedd 2023 pan gafodd ei phenodi’n Gadeirydd dros dro y Bwrdd Iechyd yn dilyn ymddeoliad Maria Battle fel Cadeirydd. Mae cyfnod Judith fel aelod o’r Bwrdd a Chadeirydd dros dro i fod i ddod i ben ddiwedd mis Mawrth 2024.

 

Aeth Judith ymlaen i ddweud: “Rwyf hefyd yn falch o rannu bod Rhodri Evans, yr Aelod Annibynnol (Llywodraeth Leol) ar hyn o bryd, wedi’i benodi’n Is-gadeirydd dros dro tan i Eleanor ymuno â’r Bwrdd ym mis Chwefror. Rwy’n ddiolchgar iawn i Rhodri am ymgymryd â’r rôl hon gan sicrhau ein bod yn darparu arweiniad parhaus ar ein Bwrdd a’i bwyllgorau.”

Mae’r Bwrdd yn chwarae rhan allweddol wrth lunio strategaeth, gweledigaeth, pwrpas a diwylliant byrddau iechyd. Mae’n dwyn y Bwrdd Iechyd i gyfrif am ddarparu gwasanaethau, cyflawni strategaeth a gwerth am arian, a datblygu a gweithredu strategol. Mae’r Bwrdd hefyd yn gyfrifol am sicrhau bod unrhyw risgiau i’r Bwrdd Iechyd, staff, a’r cyhoedd yn cael eu rheoli a’u lliniaru’n effeithiol. Dan arweiniad Cadeirydd annibynnol ac yn cynnwys cymysgedd o Aelodau Gweithredol ac Annibynnol, mae gan y Bwrdd gydgyfrifoldeb am berfformiad y Bwrdd Iechyd.

Mae penodiadau Aelodau Bwrdd Annibynnol am gyfnod cychwynnol o hyd at bedair blynedd, y gellir ei ymestyn i uchafswm o wyth mlynedd, ar ôl cael ei gymeradwyo gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.