4 Ebrill 2025
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi cyhoeddi heddiw bod Sharon Daniel wedi’i phenodi’n Gyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio, Ansawdd a Gofal Cleifion newydd.
Mae Sharon wedi bod yn Gyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio, Ansawdd a Phrofiad y Claf yn y bwrdd iechyd dros dro ers mis Ionawr 2024, wrth aros am benodi Prif Weithredwr parhaol.
Yn arweinydd adnabyddus ac uchel ei pharch o fewn y sefydliad, mae Sharon yn dod â chyfoeth o brofiad i’r rôl, ar ôl ymroi ei gyrfa broffesiynol gyfan i ofal iechyd yn rhanbarth Hywel Dda. Mae ei thaith yn rhychwantu rolau clinigol, academaidd a rheolaethol — o’i dyddiau cynnar fel nyrs oedolion i swyddi ym maes rheoli safle, darlithio, atal a rheoli heintiau, llywodraethu clinigol, a rheolaeth gyffredinol.
Ers 2015, mae Sharon wedi gwasanaethu fel Cyfarwyddwr Cynorthwyol Nyrsio, gan weithio ar draws meysydd gan gynnwys atal a rheoli heintiau, safonau proffesiynol a rheoleiddio. Camodd i rôl Dirprwy Gyfarwyddwr Nyrsio ym mis Mai 2023 a chafodd ei phenodi’n Gyfarwyddwr Nyrsio dros dro yn gynnar yn 2024. Mae ei phenodiad i’r swydd barhaol yn cydnabod ei harweinyddiaeth a’i hymrwymiad dwfn i’r boblogaeth a’r gweithlu lleol.
Dywedodd yr Athro Phil Kloer, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda:
“Mae Sharon wedi dangos ymrwymiad ac arweiniad rhagorol drwy gydol ei gyrfa gyda Hywel Dda. Mae ei hangerdd am nyrsio, gwybodaeth ddofn o’n gwasanaethau, a’i chysylltiad gwirioneddol â’r bobl rydym yn eu gwasanaethu yn ei gwneud hi’n ddewis arbennig ar gyfer y rôl hon. Rwy’n falch iawn o gyhoeddi ei phenodiad, yn dilyn proses gystadleuol ac agored, ac edrychaf ymlaen at barhau i weithio ochr yn ochr â hi wrth i ni fwrw ymlaen â’n huchelgeisiau am ofal tosturiol o ansawdd uchel.”
Wrth siarad ar ei phenodiad, dywedodd Sharon: “Mae Hywel Dda yn gartref i mi. Mae fy nheulu a minnau yn rhan o’r boblogaeth, ac rwyf wedi gweithio o fewn gofal iechyd yma ers i mi orffen fy hyfforddiant ffurfiol.
“Rwy’n hynod falch o arwain gweithlu nyrsio mor ymroddedig ac angerddol ac rwy’n gyffrous i weithio gyda chydweithwyr i ddathlu ein cyflawniadau ac adeiladu arnynt wrth i ni edrych i’r dyfodol. Gyda’n gilydd, byddwn yn archwilio cyfleoedd ar gyfer gwaith tîm rhyngbroffesiynol i helpu i gyflawni ein strategaeth glinigol a’r gofal gorau oll i’n cymunedau.”
Mae penodiad Sharon yn gam sylweddol ymlaen yn ymrwymiad parhaus y Bwrdd Iechyd i gryfhau arweinyddiaeth broffesiynol a gwella canlyniadau i gleifion a chymunedau ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.
DIWEDD