Cefnogaeth pan fydd ei angen arnoch
Mae gwasanaeth iechyd meddwl arloesol i oedolion yn cael ei dreialu yn Sir Benfro.
Yn dilyn llwyddiant Noddfa Gyda’r Hwyr yn Llanelli, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda mewn partneriaeth gyda Heddlu Dyfed Powys a Chyngor Sir Penfro, wedi gallu sicrhau cyllid ar gyfer peilot tri mis yn Sir Benfro.
Bydd Noddfa Gyda’r Hwyr yn cael ei ddarparu gan Mind Sir Benfro o’i safle ar 2 Perrots Road, Hwlffordd. Bydd ar afor o ddydd Gwener i ddydd Sul rhwng 6pm a 2am, o’r 27ain Tachwedd 2020.
Bydd y gwasanaeth yn cynnig noddfa i oedolion sy’n profi trallod meddwl neu sydd mewn perygl o’u iechyd meddwl yn dirywio, pan fydd gwasanaethau cymorth eraill ar gau. Bydd y gwasanaeth ataliol hwn yn darparu mynediad cynnar at gymorth, a fydd yn lleihau dibyniaeth ar wasanaethau iechyd meddwl craidd.
Dywedodd Peter Gills, Rheolwr Gwasanaeth Iechyd Meddwl Oedolion Sir Benfro gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae hwn yn gyfle cyffrous i weithio’n agos gyda chydweithwyr yn Mind Sir Benfro, i symud ymlaen â’r gwaith o drawsnewid gwasanaethau iechyd meddwl a darparu gwasanaethau y mae’r gymuned leol wedi gofyn amdanynt wrth ddarparu cefnogaeth ar adegau pan mae'n anodd cael mynediad atynt.
“Rydym wedi ymrwymo i allu cynnig y gefnogaeth gywir ar yr adeg iawn i bobl Sir Benfro wrth inni symud ymlaen ac rydym yn falch o fod yn datblygu’r prosiect peilot hwn, gan weithio mewn partneriaeth â Heddlu Dyfed Powys a Chyngor Sir Penfro.”
Ychwanegodd Tracey Price Prif Swyddog Gweithredol, Sir Benfro: “Mae Mind Sir Benfro yn gyffrous iawn i allu rhedeg y gwasanaeth peilot hwn, yr ydym yn gwybod ei fod yn rhywbeth y mae pobl wedi gofyn amdano ac sydd ei angen. Mae'n gyfle gwych i weithio'n agosach ar draws pob sector ac i wella hygyrchedd i gefnogaeth y tu allan i oriau i bobl yn Sir Benfro.
“Rydym yn croesawu’r cyfle i weithio gyda pobl a’u cefnogi i reoli a chynnal eu hiechyd meddwl a’u llesiant, mewn amgylchedd cyfforddus a chartrefol, sydd, lle bynnag y bo modd, yn osgoi’r angen i bobl gael mynediad at wasanaethau acíwt."
Mae'r gwasanaeth hwn yn cael ei ddarparu yn unol â'r rhaglen Trawsnewid Iechyd Meddwl. Yn 2017, cymerodd dros fil o bobl ran mewn ymgynghoriad cyhoeddus a ofynnodd i bobl am eu barn ar gynigion i newid sut y darperir gofal a thriniaeth i ddiwallu anghenion iechyd meddwl pobl nawr yn ogystal â chenedlaethau'r dyfodol. Ar ôl cydweithio â defnyddwyr gwasanaeth, staff, partneriaid, gan gynnwys Gweithredu dros Iechyd Meddwl Gorllewin Cymru a'r Cyngor Iechyd Cymunedol, cyd-ddyluniwyd model gofal newydd ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl. Mae hyn yn cynnwys:
• Gwasanaethau 24 awr - sicrhau bod unrhyw un sydd angen help yn gallu defnyddio canolfan iechyd meddwl i gael cymorth ar unrhyw adeg o'r dydd neu'r nos.
• Dim rhestrau aros - fel bod pobl yn cael cyswllt cyntaf â'r gwasanaethau iechyd meddwl o fewn 24 awr ac i'w cynllun dilynol gael ei gynllunio mewn ffordd gyson a chefnogol.
• Ffocws ar y gymuned - i roi'r gorau i dderbyn pobl i ysbyty pan nad dyna'r opsiwn gorau a darparu cefnogaeth yn y gymuned pan fydd angen amser oddi cartref, cefnogaeth neu amddiffyniad ychwanegol ar bobl.
• Adferiad a gwytnwch - gwasanaethau nad ydyn nhw'n canolbwyntio'n llwyr ar drin neu reoli symptomau, ond yn lle hynny sy'n helpu pobl i fyw bywydau annibynnol a boddhaus gyda'r help a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnyn nhw.
Gall y rhai sydd am gael mynediad i'r gwasanaeth ffonio 01437 769982 neu anfon neges destun at 07959 835339. Mewn ymateb i COVID-19, rhaid archebu pob apwyntiad ymlaen llaw i sicrhau bod yr ardal yn cael ei glanhau rhwng ymwelwyr.
I gael y newyddion diweddaraf gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ewch i https://hduhb.nhs.wales/
DIWEDD