Neidio i'r prif gynnwy

Pecynnau anabledd dysgu wedi'u cyflwyno ar draws adrannau brys lleol

Staff ysbyty yn gwenu wrth weithio yn yr adran frys yn Ysbyty Glangwili / Uned Asesu Meddygol Aciwt Ysbyty Tywysog Philip / adran frys Ysbyty Llwynhelyg / adran frys Ysbyty Bronglais yn dal copi o’r pecyn anableddau dysgu.

08 Rhagfyr 2025

Yn dilyn cynllun peilot llwyddiannus yn adran achosion brys Ysbyty Glangwili, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi cyflwyno Pecynnau Anabledd Dysgu ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

Mae'r pecynnau hyn wedi'u cynllunio gan Dîm Anableddau Dysgu y bwrdd iechyd i wneud ymweliadau ysbyty brys yn llai straenus ac yn fwy hygyrch i oedolion ag anableddau dysgu. Maent yn rhoi gwybodaeth a sicrwydd clir a syml i gleifion a'u teuluoedd.

Mae'r pecyn ar gael yn adrannau brys Bronglais, Glangwili, Llwynhelyg ac Uned Asesu Meddygol Acíwt (AMAU) Ysbyty Tywysog Philip.

Mae wedi'i gynllunio i ddarparu gwybodaeth a sicrwydd clir a syml ac mae'n cynnwys:

  • Gwybodaeth hawdd ei ddeall
  • Lluniau a symbolau i gynorthwyo dealltwriaeth
  • Manylion am yr hyn fydd yn digwydd yn ystod yr ymweliad
  • Gwybodaeth am staff a all helpu

Er mwyn sicrhau bod y pecynnau yn cael eu cynnig yn brydlon, mae'r Tîm Anableddau Dysgu yn gweithio'n agos gyda staff blaen tŷ ac yn cynnal sesiynau galw heibio i staff. Bydd posteri hefyd yn hyrwyddo eu hargaeledd ar draws adrannau a gall cleifion, neu eu gofalwr, ofyn am becyn wrth y dderbynfa.

"Datblygwyd y pecynnau hyn i helpu i wneud gofal brys yn llai straenus ac yn fwy hygyrch i oedolion ag anableddau dysgu. Rydym wrth ein bodd bod y pecynnau hyn bellach ar gael ar draws ein hysbytai," meddai Melissa Evans, Rheolwr Tîm Hwyluso Iechyd a Chyswllt Anableddau Dysgu, ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Anogir unrhyw un sydd ag anabledd dysgu hefyd i gwblhau Proffil Iechyd a'i rannu â gweithwyr iechyd wrth ymweld â'r ysbyty. Mae'r proffil hwn yn cynnwys gwybodaeth hanfodol ar gyfer gweithwyr iechyd a gellir ei ddefnyddio ar draws pob apwyntiad iechyd a gofal cymdeithasol.

Ychwanegodd Melissa: "Mae Proffil Iechyd yn offeryn cyfathrebu pwysig i bobl ag anabledd dysgu. Gall gynnwys gwybodaeth am sut i gyfathrebu, eu meddyginiaeth a'u alergeddau, a'r addasiadau rhesymol y gallai fod eu hangen arnynt.

"Mae pawb yn wahanol, felly rydym yn annog unrhyw un ag anabledd dysgu i lenwi Proffil Iechyd a mynd ag ef gyda nhw pan fydd angen i chi fynd i'r ysbyty neu weld staff iechyd a gofal cymdeithasol."

Mae Proffiliau Iechyd ar gael i'w lawrlwytho yn www.improvementcymru.net/health-profile (agor mewn dolen newydd)  ynghyd â chyngor ar sut i'w lenwi.