Neidio i'r prif gynnwy

Partneriaeth COVID yn canmol trigolion Ceredigion

Mae'r bartneriaeth amlasiantaethol a sefydlwyd i fynd i'r afael â lledaeniad COVID-19 yng Ngheredigion wedi canmol y boblogaeth am eu hymdrechion i gadw eu cymunedau'n ddiogel dros y misoedd diwethaf.

Mae Tîm Rheoli Digwyddiad Ceredigion yn bartneriaeth rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Cyngor Sir Ceredigion, Prifysgol Aberystwyth, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Heddlu Dyfed-Powys, Tîm Olrhain Cyswllt Ceredigion ac Undeb Myfyrwyr Aberystwyth.

Dywedodd ei ddirprwy gadeirydd, Barry Rees: “Rydyn ni wedi gofyn i’r cyhoedd wneud aberthau sylweddol a newid y ffordd maen nhw'n byw ac yn gweithio, ac mae pobl Ceredigion wedi ymateb. Rwy'n falch iawn o'r ffordd y mae pobl wedi ymateb ac amddiffyn eu hunain, eu teuluoedd, eu cymunedau a'r GIG.

“Mae’n amlwg i mi fod mwyafrif y bobl yn dilyn y canllawiau, megis cynnal pellter cymdeithasol a gwisgo gorchuddion wyneb, ac maen nhw i’w llongyfarch am chwarae eu rhan wrth fynd i’r afael â’r feirws hwn.

“Mae’r pandemig byd-eang hwn wedi dod â phobl ynghyd, ac mae’r ymdeimlad hwn o undod hefyd wedi dod â’r gorau ynom yn y ffordd yr ydym yn cefnogi ac yn gofalu am ein gilydd. Ein neges i’r cyhoedd yw i fyw eich bywydau, ond ar yr un pryd aros yn wyliadwrus, parhau i ddilyn y rheolau a rheoli’r risg. ”

O Dydd Mawrth 10fed Tachwedd, mae nifer yr achosion COVID yng Ngheredigion 471 fesul 100,000 o'r boblogaeth, sydd ymhlith yr isaf yng Nghymru.

Yn dilyn y cyfnod clo byr, mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno set newydd o fesurau cenedlaethol, gan gynnwys caniatáu:

  • ffurfio dau swigen cartref
  • hyd at 15 o bobl yn cwrdd y tu mewn ar gyfer gweithgareddau wedi'u trefnu
  • hyd at 30 o bobl yn cwrdd yn yr awyr agored ar gyfer gweithgareddau wedi'u trefnu
  • ailagor tafarndai, bariau, bwytai, lle caniateir grwpiau o bedwar o bobl o wahanol aelwydydd
  • ailagor campfeydd a busnesau eraill

Gellir gweld manylion llawn am y cyfyngiadau ar ôl y cyfnod clo byr yma

Rhaid i unrhyw un sydd â symptomau o'r firws (peswch parhaus newydd, tymheredd uchel neu golli / newid blas neu arogl) archebu prawf cyn gynted â phosibl. Gellir gwneud hyn trwy borth ar-lein y DU yn www.gov.wales/coronavirus.

Sicrhewch wrth archebu eich bod yn dewis yr opsiwn sydd ei angen arnoch (er enghraifft, dim ond archebu'r ganolfan cerdded i mewn os nad ydych yn gallu teithio yn eich cerbyd eich hun i'r cyfleuster gyrru drwodd). Rhaid i'r bobl sy'n mynychu'r ganolfan cerdded i mewn wisgo gorchudd wyneb.

Peidiwch ag archebu prawf os nad oes gennych symptomau COVID-19 ac os nad ydych chi'n mynychu canolfannau profi heb archebu'n gyntaf gan na fyddwch chi'n cael eich gweld heb apwyntiad.