Neidio i'r prif gynnwy

Parhau ar y llwybr i ddatgarboneiddio

29 Mawrth 2022

Mae datgarboneiddio a sefydlu systemau ynni effeithlon o amgylch ein cyfleusterau gofal iechyd yn flaenoriaeth allweddol i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIP).

Ymhlith y mentrau diweddaraf i gael eu rhoi ar waith mae gwaith i osod paneli ffotofoltäig (PV) yn Ysbyty Llwynhelyg. Mae paneli’n cael eu gosod ar hyn o bryd ar do’r bloc cynnal a chadw (52.8KWp) yn Llwynhelyg, gyda’r gwaith gosod ar y blociau preswyl, ac adeilad y Pâl i fod i gael ei gwblhau yr haf hwn. Bydd y paneli yn arwain at arbedion carbon blynyddol o tua 63.72 tCo2e.

Yn y cyfamser, mae paneli wedi'u gosod ar y to hefyd yn cael eu gosod yn Ysbyty De Sir Benfro a disgwylir i'r gwaith o osod pyrth solar ar y safle gael ei gwblhau yr haf hwn. Yr arbedion carbon blynyddol disgwyliedig o'r paneli to a'r pyrth solar yw 15.50 tCO2e a 38.82 tCo2e yn y drefn honno.

Yn 2019, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Argyfwng Hinsawdd. Mae ganddi darged hirdymor i leihau’r holl allyriadau nwyon tŷ gwydr i sero net erbyn 2050, ac uchelgais i’r Sector Cyhoeddus arwain y ffordd a bod yn sero net erbyn 2030(agor mewn dolen newydd). Mae BIP Hywel Dda yn cefnogi’r targed hwn yn llwyr ac mae eisoes wedi gweithredu mentrau sy'n gweithio tuag at y nod hwn.

Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf mae PV wedi’i osod ar y to hefyd ar sawl safle bwrdd iechyd gan gynnwys Ysbyty Dyffryn Aman, Bro Cerwyn, nifer o adeiladau yn Ysbyty Bronglais, Canolfan Iechyd Aberdaugleddau, Canolfan Iechyd Doc Penfro, Canolfannau Gofal Integredig Llanymddyfri ac Aberteifi.

Mae gwaith hefyd wedi dechrau ar ddatblygu fferm solar 0.45 MW ym Mharc Dewi Sant, oddi ar Heol Ffynnon Job, Caerfyrddin, a fydd yn danfon trydan a gynhyrchir ar y safle yn uniongyrchol i safle Hafan Derwen. Amcangyfrifir y bydd hyn yn arwain at arbedion carbon blynyddol o 120.43 tCo2e. Fel rhan o'r cynllun mae'r Bwrdd Iechyd hefyd yn cynnig gweithredu mesurau a fydd yn gwella bioamrywiaeth ar y safle megis plannu brodorol, llwybrau naturiol a blychau adar/ystlumod.

Dywedodd Paul Williams, Pennaeth Perfformiad Eiddo Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Dros y blynyddoedd, rydym wedi ymrwymo i fod yn arloeswr wrth roi atebion ynni effeithlon ar waith yn ein cyfleusterau gofal iechyd.

“Rydym wedi bod yn gweithredu ystod o brosiectau a mentrau arloesol ar draws ein safleoedd gan weithio tuag at leihau ein hôl troed carbon.

“Er ein bod wedi gwneud cynnydd da gyda’n prosiectau, mae gennym dipyn o ffordd i fynd o hyd, a byddwn yn parhau i rannu diweddariadau wrth i ni symud ymlaen tuag at yfory mwy gwyrdd.”