Mae staff y GIG ledled Sir Benfro yn gweithio'n ddiflino i ddarparu gwasanaethau cymunedol hanfodol ac adnoddau ychwanegol yn ystod pandemig Covid-19.
Nod y newidiadau a wnaed yw cefnogi cleifion i reoli eu hiechyd a'u llesiant eu hunain, gan ganolbwyntio ar eu cartrefi eu hunain neu'n agos at eu cartref.
Mae staff wedi creu ward newydd â 30 gwely yn Ysbyty De Sir Benfro yn Noc Penfro, sydd bron â chael ei chwblhau. Bydd hyn yn darparu capasiti gwelyau lliniarol ac adsefydlu ychwanegol i gleifion o Ysbyty Llwynhelyg ac yn uniongyrchol o'r gymuned.
Bydd Ward newydd Cleddau yn cael ei harwain a'i staffio gan staff nyrsio profiadol, ffisiotherapyddion a therapyddion galwedigaethol. Penodwyd rolau gweithwyr meddygol a chymorth pellach i gefnogi'r staff presennol.
Gyda Ward Sunderland 40 gwely bresennol, mae gan yr ysbyty 70 o welyau cymunedol i gefnogi ein poblogaeth leol yn ystod y pandemig, tra bydd deg gwely yn Ward Bwthyn Dinbych-y-pysgod, Park House Court, yn parhau i ddarparu gofal adfer a lliniarol ar gyfer gofal sydd ddim yn ymwneud â Covid-19.
Dywedodd Maria Battle, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae'r timau wedi gwneud gwaith gwych yn sefydlu'r ward newydd mor gyflym ac yn ad-drefnu'r ysbyty i'w wneud yn fwy diogel.
“Mae llawer o staff wedi ailhyfforddi ac yn gweithio gyda'i gilydd i sicrhau bod pawb yn derbyn y gofal a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt i aros yn ddiogel gartref ac i gael gofal yn eu hysbyty cymunedol lleol pe bai ei angen arnynt.
“Fel bob amser, mae ysbryd cymunedol y timau ledled Sir Benfro yn disgleirio’n llwyr wrth ad-drefnu sut y gallwn barhau i ddarparu gwasanaethau i’n poblogaeth yn ddiogel yn ystod y pandemig.”
Dywedodd Elaine Lorton, Cyfarwyddwr Sir Benfro ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae darparu gofal i’n poblogaeth yn y cartref neu mor agos â phosibl yn flaenoriaeth a byddwn yn sicrhau bod gwelyau ysbyty acíwt ar gael i bobl sydd eu hangen.
“Rwy’n falch iawn o’n timau cymunedol sydd wedi parhau’n ymrwymedig i ddarparu gofal wrth addasu a bod yn hyblyg i anghenion newidiol wrth i’r rhain gael eu cyflwyno a’u hadnabod.
“Hoffwn hefyd ddiolch i’r llu o unigolion a grwpiau sy’n cefnogi pobl yn eu cartrefi eu hunain ac yn gweithio gyda ni i gadw ein cymunedau a’n gweithwyr allweddol yn ddiogel.”
Mae clinigau cymunedol yn cael eu sefydlu ledled y sir i gleifion symudol gael mynediad i safle clinig iechyd i reoli a chefnogi eu hanghenion iechyd.
Bydd y clinigau hyn yn caniatáu i'n timau nyrsio cymunedol a'n therapyddion gynyddu nifer y cleifion y maent yn eu gweld wrth ddarparu gofal gartref i'r rhai sy'n hunan ynysu neu na allant adael eu cartref oherwydd eu hiechyd.
Mae Hyb Gofal Canolradd wedi'i sefydlu a fydd yn ymateb ac yn defnyddio'r gweithwyr proffesiynol medrus iawn yn seiliedig ar angen cleifion ac mae'n cynnwys timau fel Nyrsio Ardal, Nyrsio Arbenigol, Tîm Ymateb Acíwt, Tîm Ail-alluogi a Gofal yn y Cartref. Mae'r hyb yn gweithio gyda Thîm Meddygol Llwynhelyg, awdurdodau lleol a grwpiau'r trydydd sector i osgoi derbyniadau i'r ysbyty, hwyluso rhyddhau o'r ysbyty yn gyflym a chefnogi cleifion yn eu cartref eu hunain.
Dywedodd Jason Bennett, Pennaeth Gofal a Thai Cyngor Sir Penfro: “Rwy’n falch iawn bod ein strategaeth gofal canolraddol ar gyfer Sir Benfro yn dechrau dod yn realiti.
“Mae'r canolbwynt gofal canolraddol newydd yn cynnig un pwynt mynediad i gynorthwyo pobl i aros yn eu cymunedau neu i ddychwelyd adref o'r ysbyty gydag ymateb cydgysylltiedig gan iechyd, gofal cymdeithasol a'r sector gwirfoddol.
“Mae Ward Cleddau yn ardal y ganolfan ddydd yn enghraifft arall o sut rydym yn ymateb gyda'n gilydd i'r her yr ydym i gyd yn ei hwynebu ar hyn o bryd, er mwyn sicrhau ein bod yn rhoi gwelyau ysbyty ar waith i gefnogi ein poblogaeth.”
I gael y newyddion a'r diweddariadau diweddaraf gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ewch i www.hduhb.wales.nhs.uk