25 Chwefror 2022
Mae paneli ffotofoltäig (PV) newydd ar y to wedi’u gosod yn Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth, fel rhan o ymrwymiad parhaus Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i ddatgarboneiddio.
Mae’r paneli wedi’u gosod ar dŷ blaen yr ysbyty, ac yn y pen draw byddant yn cynhyrchu tua 3% o ddefnydd y safle. Disgwylir i hyn arwain at arbedion carbon blynyddol o 33.39tCo2e.
Bydd y paneli’n cynhyrchu trydan, a fydd yn cael ei fwydo i’r prif gyflenwad ysbyty, a thrwy hynny’n lleihau dibyniaeth y bwrdd iechyd ar brynu trydan a gynhyrchir gan y grid.
Yn ogystal â'r paneli, mae'r ysbyty ar hyn o bryd yn mynd trwy broses i ddisodli bylbiau golau traddodiadol gyda bylbiau LED ym Mlociau 1, 2 a 3. Bydd y cyflwyniad hwn yn cael ei gwblhau erbyn diwedd mis Mawrth 2022 a disgwylir iddo arwain at arbedion carbon blynyddol o 9.76tCo2e, ac arbedion costau blynyddol o £5,872.
Yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae’r bwrdd iechyd wedi rhoi ystod o fentrau (agor mewn dolen newydd) ar waith i leihau ein hôl troed carbon. Un dull o’r fath fu gosod paneli PV ar y to ar draws saith safle rhwng 2019-22. Mae hyn yn cynnwys Ysbyty Dyffryn Aman, Bro Cerwyn, preswylfeydd Ysbyty Bronglais, Canolfan Iechyd Aberdaugleddau, Canolfan Iechyd Doc Penfro, a Chanolfannau Gofal Integredig Llanymddyfri ac Aberteifi. Amcangyfrifir y bydd y paneli yn arbed tua 419,165 Kwh o drydan a £40,000 y flwyddyn mewn costau ynni. Disgwylir i arbedion carbon blynyddol o'r prosiectau hyn fod tua 106 tCO2e.
Dywedodd Paul Williams, pennaeth perfformiad eiddo ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym bob amser wedi bod yn ymrwymedig i ddatgarboneiddio yn ein cyfleusterau, sydd i’w weld yn yr ystod o brosiectau effeithlonrwydd ynni, carbon isel y mae’r bwrdd iechyd wedi’u cyflawni dros y blynyddoedd.
“Mae’r paneli PV a’r goleuadau LED yn Ysbyty Bronglais yn enghreifftiau pellach o’r camau yr ydym yn eu cymryd i fynd i’r afael â’r Argyfwng Hinsawdd, a ddatganwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2019, drwy fanteisio ar ffynonellau ynni adnewyddadwy amgen.
“Fodd bynnag, nid yw ein gwaith yn gorffen yma. Dros yr ychydig fisoedd nesaf, byddwn yn parhau i rannu ein cynnydd ar amrywiaeth o fentrau arfaethedig i leihau ein heffaith ar yr amgylchedd.”
Yn 2019, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Argyfwng Hinsawdd. Mae ganddi darged hirdymor i leihau’r holl allyriadau nwyon tŷ gwydr i sero net erbyn 2050, ac uchelgais i’r Sector Cyhoeddus arwain y ffordd a bod yn sero net erbyn 2030 (agor mewn dolen newydd).