26 Awst 2021
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (agor mewn dolen newydd) yn eich atgoffa, er bod cyfyngiadau’n cael eu lleddfu, nid yw COVID-19 wedi diflannu ac mae gennym ni i gyd reswm i gadw ein cymunedau’n ddiogel.
Gydag achosion COVID-19 yn codi ar draws Sir Caerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro, gofynnir i bawb gofio beth allwn ei wneud i amddiffyn ein hunain a’n gilydd.
Ar 26 Awst, gwelwyd cynnydd yn y tair sir yn y gyfradd wythnosol dreigl fesul 100,000, gyda Sir Caerfyrddin yn cynyddu I 287, Ceredigion I 271 a Sir Benfro 396. Cynyddodd y gyfradd gyffredinol ar gyfer Hywel Dda yn yr wythnos hon I 319 fesul 100,000.
Mae nifer y profion a gynhaliwyd yn ardal BIP Hywel Dda hefyd wedi cynyddu am yr un cyfnod, gyda’r canlyniadau’n dangos cynnydd mewn positifrwydd i 17% (i fyny o 11% yr wythnos flaenorol).
Er bod y cynnydd mwyaf sylweddol ymhlith y rhai dan 30 oed, mae yna achosion cadarnhaol o hyd ymhlith y rhai dros 70 oed.
Hyd yn oed os caiff ein brechu, gall dilyn y camau syml hyn ein cadw’n ddiogel, a chofiwch fod rhai rheolau yn wahanol yng Nghymru.
- Gweithio gartref pryd bynnag y gallwn
- Hunanynysu ac archebwch brawf os oes gennych symptomau, hyd yn oed os yw’n ysgafn
- Cyfarfod y tu allan, mae’n fwy diogel na’r tu mewn
- Cyfyngu ar ein cysylltiadau cymdeithasol a chadw pellter pan fo hynny’n bosibl
- Gwisgwch fwgwd, yn enwedig mewn lleoedd gorlawn
- Golchwch ein dwylo yn rheolaidd ac yn drylwyr
Gallwn wneud hyn i gadw ein hunain, ein ffrindiau a’n teulu yn ddiogel, ac i amddiffyn ein gwasanaethau rheng flaen i wasanaethu ein cymunedau pan fydd ein hangen arnom fwyaf.
Dywedodd Ros Jervis, Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd yn BIP Hywel Dda: “Rydym yn dal i fod yn y pandemig hwn sy’n parhau i achosi aflonyddwch i'n bywydau bob dydd. Rwy’n falch o faint o ymdrech y mae pobl wedi’i roi i aros yn ddiogel ers iddo ddechrau ac mae’r cynnydd mewn achosion yn dangos yn glir, er nad yw derbyniadau i'r ysbyty mor uchel â mewn tonnau blaenorol, mae COVID-19 yn dal i fod yn risg i'n hiechyd a’n gwasanaeth iechyd.
“Rwy’n apelio ar bawb i barhau i wneud ein rhan trwy lynu wrth yr ymddygiadau ‘cadw’n ddiogel’ sydd bron wedi dod yn ail natur. Heb eich help chi, byddwn yn cael trafferth cynnwys lledaeniad pellach o coronafirws yma yng ngorllewin Cymru.”
Mae rhaid i unrhyw un sydd â symptomau COVID-19, gan gynnwys symptomau’n debyg i annwyd a ffliw, hunanynysu ac archebu prawf trwy Borth y DU (agor mewn dolen newydd) neu trwy ffonio 119 cyn gynted â phosibl. Trwy wneud hyn, gallwch chi helpu i leihau’r risg y bydd y firws yn lledaenu ymhellach ar draws ein cymunedau.
Mae rhaid i chi hunanynysu nes i chi derbyn canlyniad eich prawf, a fydd fel arfer o fewn 24 awr ar ôl y prawf. Os yw’ch canlyniad yn negatif, gallwch chi ddod a’ch hunanynysu i ben, pan fyddwch chi’n teimlo’n ddigon da i wneud hynny.
Os yw’ch canlyniad yn bositif, mae rhaid i chi hunanynysu am 10 diwrnod o’r dyddiad y dechreuodd eich symptomau. Bydd olrheiniwr cyswllt mewn cysylltiad â chi a bydd ond yn cysylltu â chi ar 02921 961133. Os byddwch chi’n colli’r alwad, peidiwch â phoeni, byddant yn eich ffoniwch eto.
Pam ei bod hi’n bwysig siarad ag olrheiniwr cyswllt? Trwy rannu gwybodaeth am gysylltiadau diweddar, gall olrheinwyr ofyn i'r rhai a allai fod wedi dal y firws i ynysu i helpu i atal lledaenu ymhellach. Mae’n bwysig i bobl ateb galwad olrhain cyswllt (o’r rhif uchod) fel y gallant eich helpu, yn enwedig os oes angen cymorth ychwanegol arnoch chi neu’ch cysylltiadau. Bydd y wybodaeth rydych chi’n ei rhannu a nhw yn cael ei chadw’n ddiogel a’i thrin yn gyfrinachol, fel gyda’r holl wybodaeth iechyd.
Darllenwch fwy am y symptomau, Profi, Olrhain, Diogelu a brechiad yma (agor mewn dolen newydd)
Gyda’n gilydd gallwn gadw Hywel Dda yn ddiogel.