Neidio i'r prif gynnwy

Nyrsys lleol yn disgleirio mewn gwobrau cenedlaethol

29 Tachwedd 2024

 

Roedd hi'n noson arall o lwyddiant i dîm nyrsio Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda gyda dau enillydd ac un yn ail yng Ngwobrau Nyrs y Flwyddyn Coleg Brenhinol y Nyrsys (RCN) eleni.

Cynhaliwyd y gwobrau blynyddol mawreddog yng Nghaerdydd ddydd Iau 21 Tachwedd 2024 i ddathlu'r arloesedd a'r rhagoriaeth mewn ymarfer, gan gydnabod ymdrechion, ymrwymiad a chyflawniadau rhagorol ein cymuned nyrsio ledled Cymru.

Llongyfarchiadau mawr i Claire Hurlin, Pennaeth Strategol Rheoli Cyflyrau Cymunedol a Chronig, a enillodd y Wobr Cyflawniad Oes a Donna Major, Uwch Brif Nyrs Ward, enillydd y Wobr Nyrs Gofrestredig (Oedolion). Dyfarnwyd Bianca Oakley, Uwch Ymarferydd Nyrsio  yng Nghanolfan Gofal Integredig Aberteifi, yn ail yng Ngwobr Prif Swyddog Nyrsio Cymru.

Dywedodd Sharon Daniel, Cyfarwyddwr Nyrsio, Ansawdd a Phrofiad Cleifion Dros Dro yn y bwrdd iechyd: "Rwy'n falch iawn bod ein nyrsys yn Hywel Dda wedi cael eu cydnabod eto yn y digwyddiad blynyddol hwn. Mae'r gwobrau'n rhoi cyfle gwych i nyrsys, myfyrwyr, gweithwyr cymorth a bydwragedd i ddangos y gwahaniaeth y maent yn ei wneud i fywydau pobl yr ydym yn gofalu amdanynt. Llongyfarchiadau i chi i gyd."

Enillodd Claire Hurlin, Claire Hurlin, Pennaeth Strategol Cymunedol a Chyflyrau Cronig y Wobr Cyflawniad Oes am ei gwaith i lunio treial rhyngwyneb asthma, gan gysylltu gofal fferyllol, gofal sylfaenol a gofal asthma arbenigol a’u gilydd. O ganlyniad, mae'r tîm wedi ehangu, gan arwain at fwy o gleifion yn derbyn triniaethau arbenigol.

Dywedodd: "Mae'n fraint wirioneddol derbyn y wobr hon. Rwy'n ddiolchgar i fod mewn proffesiwn yr wyf yn angerddol amdano ac wedi cael y cyfle i weithio gyda chymaint o nyrsys a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i wneud gwahaniaeth."

Donna Major, Prif Nyrs Ward, enillydd y Wobr Nyrs Gofrestredig (Oedolion) am ei gwaith i wella gofal cleifion bregus a dementia. Archwiliodd ffyrdd arloesol o wella diogelwch a chanlyniadau i gleifion ar y ward bregusrwydd, a oedd yn cynnwys rowndiau ysgytlaeth, hydradu, hunanwasanaeth byrbrydau, garddio, clwb llyfrau a chinio. Roedd hi hefyd yn ganolog wrth sefydlu'r Uned Asesu Bregusrwydd a gweithgareddau wythnosol 'Celf mewn Iechyd' ar gyfer cleifion mewnol sy'n byw gyda dementia yn Ysbyty Glangwili.

Dywedodd: "Cefais sioc fawr ac wrth fy modd o dderbyn y wobr hon ac roedd yn noson wych, ysbrydoledig iawn yn tynnu sylw at ein gweithlu nyrsio gwych yng Nghymru a'r effaith gadarnhaol y maent yn ei chael ar ofal cleifion bob dydd."

Dyfarnwyd Bianca Oakley, Uwch Ymarferydd Nyrsio yng Nghanolfan Gofal Integredig Aberteifi, yn ail yng Ngwobr Prif Swyddog Nyrsio Cymru am ei gwaith yn datblygu Gwasanaeth Gofal Brys Cymunedol yr Un Dydd. Mae hyn wedi helpu i roi mynediad i gleifion at ofal yn agosach at eu cartrefi a llai o bwysau ar safleoedd ysbytai cyffredinol. Mae hi hefyd yn cymryd rhan weithredol mewn ymchwil fel profion pwynt gofal mewn ardaloedd anghysbell i wella a galluogi darparu gofal diogel amserol i gleifion, yn agosach at eu cartrefi.

Ychwanegodd "Roedd yn fraint fawr cael fy ndyfarnu'n ail am yr ail flwyddyn yn olynol yn y gwobrau hyn. Rwy'n hynod falch o'n tîm yng ngwasanaeth Gofal ac Allgymorth Brys yr Un Diwrnod yng Ngheredigion sydd wedi gweithio'n ddiflino dros y tair blynedd diwethaf i ddarparu gofal uwch yn nes at adref. Roedd cael fy enwebu ond yn bosibl oherwydd eu gwaith caled a'u hymroddiad."

Am fwy o wybodaeth am yr enillwyr a'r rhai sy'n cyrraedd y rownd derfynol, ewch i:
Enillwyr Gwobrau Nyrs y Flwyddyn 2024 | Cymru | Coleg Brenhinol Nyrsio (agor mewn dolen newydd)

Llun:
Yn ail o'r chwith, Bianca Oakley, trydydd (mewn gwisg goch) Donna Major, Claire Hurlin (ar y pen.)