Neidio i'r prif gynnwy

Nyrs leol yn cael ei dyfarnu gan Sefydliad Nyrsio'r Frenhines

Bocs glas gyda geiriau datganiad i

6 Ionawr 2025

Yn ddiweddar dyfarnwyd ‘Gwobr Goffa’r Fonesig Elizabeth Fradd am Gyflawniad Eithriadol’ i Megan Ware, Nyrs Gymunedol Plant ag Anabledd Dysgu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, gan Sefydliad Nyrsio’r Frenhines.

Cyflwynwyd y wobr fawreddog hon i Megan i gydnabod ei gwaith caled a’i chyflawniadau ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, a Sir Benfro.

Enwebwyd Megan gan un o'i darlithwyr ym Mhrifysgol De Cymru. Roedd llawer o resymau a helpodd i ddylanwadu ar ei henwebiad ar gyfer y wobr hon. Mae hi wedi manteisio'n frwd ar y cyfle i ennill profiad, datblygu a chyflawni. Helpodd i addysgu myfyrwyr nyrsio plant cymunedol blwyddyn un yn y Cymhwyster Ymarferydd Arbenigol (SPQ), gan rannu ei dysgu ei hun o’i hymarfer clinigol.

Mae ei harloesedd a’i hanogaeth wedi ysbrydoli eraill i deimlo’n hyderus o fewn eu hymarfer arbenigol yn y dyfodol ac mae hi wedi rhagori yn glinigol, gan gyflawni holl elfennau’r cwrs i safon uchel.

Dywedodd Megan: “Rwyf bob amser wedi bod yn angerddol am wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl ac rwy’n teimlo mor freintiedig i fod yn y sefyllfa rydw i fel nyrs yn gweithio gyda phlant ag anableddau dysgu ac anghenion cymhleth. Cefais sioc lwyr o fod wedi ennill y wobr hon ond teimlaf yn falch fy mod wedi cael fy nghydnabod am fy ngwaith a’m hymdrechion wrth gwblhau’r cwrs.”

Megan hefyd yw’r nyrs anabledd dysgu gyntaf yng Nghymru sy’n gweithio o fewn tîm nyrsio plant cymunedol i gwblhau ei SPQ mewn nyrsio cymunedol plant. Mae’r cwrs yn paratoi nyrsys i ddod yn ymarferydd arbenigol gan ddilyn safonau hyfedredd y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth ar gyfer cymwysterau ymarfer arbenigol nyrsio cymunedol. Mae'r sgiliau a addysgir yn cynnwys addysg iechyd a hybu iechyd, sut i wella ansawdd mewn lleoliadau gofal iechyd, arweinyddiaeth, a rheolaeth a mwy.

Canmolodd Sharon Daniel, Cyfarwyddwr Gweithredol Dros Dro Nyrsio, Ansawdd a Phrofiad y Claf yn y bwrdd iechyd gyflawniad Megan, gan ddweud: “Rwy’n falch o Megan am ennill y wobr hon ac am fod y nyrs anabledd dysgu gyntaf i astudio ar gyfer y Cymhwyster Ymarferydd Arbenigol yng Nghymru. Mae’n dyst i’w holl waith caled a’i hymrwymiad i ehangu ei gwybodaeth fel nyrs sy’n gweithio gyda phlant yn ein cymuned ac er budd iddynt.”

Mae Megan yn bwriadu gorffen ei thraethawd hir a chwblhau ei gradd Meistr, a fydd yn helpu i ddatblygu ei gyrfa.

Mae’r wobr flynyddol hon ar gyfer y myfyriwr mwyaf rhagorol yn y Cymhwyster Ymarfer Arbenigol mewn nyrsio plant cymunedol ar draws prifysgolion yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Sefydlwyd Gwobr Goffa’r Fonesig Elizabeth Fradd yn 2024 i anrhydeddu etifeddiaeth y Fonesig Elizabeth Fradd, Cymrawd o Sefydliad Nyrsio’r Frenhines a nyrs plant o fri.

DIWEDD