02 Mai 2023
Mae gwasanaeth newydd wedi’i lansio ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar gyfer y rhai sydd wedi cael diagnosis o ganser tebygol ond nid yw’n glir yn union pa fath o ganser ydyw, a ble y dechreuodd y canser.
Bydd y gwasanaeth Malaenedd o Darddiad Anhysbys (MUO) yn caniatáu i gleifion â diagnosis canser eilaidd gael ymchwiliadau pellach i geisio canfod ffynhonnell y canser a derbyn y driniaeth a’r gofal mwyaf priodol.
Gan weithio’n agos gyda chydweithwyr ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, bydd BIP Hywel Dda yn cynnig apwyntiadau i gleifion o fewn pythefnos i gael eu hatgyfeirio gan eu meddyg teulu a chyswllt gan y tîm MUO o fewn 48 awr i glaf sydd eisoes yn yr ysbyty.
Dywedodd yr Athro Ken Woodhouse, Arweinydd Clinigol: “Mae hwn yn ddatblygiad cyffrous a phwysig iawn i Hywel Dda. Gall cleifion y canfyddir bod ganddynt ganser posibl, ond nid o safle sylfaenol amlwg, fod yn gymhleth iawn i'w datrys.“
“Bydd y gwasanaeth newydd hwn, a ddarperir mewn partneriaeth â’n cydweithwyr yn Abertawe, yn sicrhau eu bod yn cael eu hasesu mewn modd amserol fel y gellir gwneud unrhyw brofion pellach yn gyflym, a dechrau cynllun triniaeth cyn gynted â phosibl.”