Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn falch o rannu bod newidiadau'n cael eu gwneud i reolau ymweld â chleifion mewnol mamolaeth o heddiw ymlaen, ddydd Mercher 1 Mehefin, gan alluogi partner geni dynodedig i fod yn bresennol yn ystod apwyntiadau ysbyty.
Bydd y newidiadau a gyhoeddwyd heddiw yn galluogi i un partner geni dynodedig i ymweld â menywod a phobl sy'n geni sy'n cael eu derbyn i'r ysbyty yn ystod beichiogrwydd, yr esgor, ac ar ôl geni, rhwng 10am ac 8:30pm bob dydd.
Gall partner dynodedig fod yn bresennol pan dderbynnir mam neu berson sy’n feichiog wrth esgor i'r Uned Brysbennu Mamolaeth neu'r Unedau dan arweiniad Bydwreigiaeth yn Ysbyty Llwynhelyg ac Ysbyty Glangwili.
Gall un partner dynodedig barhau i fynychu drwy gydol y geni a’r broses toriad cesaraidd dewisol.
Gall un partner dynodedig hefyd fod yn bresennol ar gyfer pob sgan obstetreg a sgan twf yn ogystal â'r sganiau 12 ac 20 wythnos. Yn dibynnu ar gynhwysedd clinigol y diwrnod, efallai y bydd angen i bartneriaid aros y tu allan i'r clinig cyn geni a galw amdanynt pan fydd eu partneriaid yn mynd i'r apwyntiad.
Daw'r newidiadau hyn i rym ar unwaith yn Ward Gwenllian, Ysbyty Bronglais; Ward Dinefwr, Ysbyty Glangwili; a’r Uned dan arweiniad Bydwreigiaeth yn Ysbyty Llwynhelyg.
Dywedodd Mandy Rayani, Cyfarwyddwr Nyrsio, Ansawdd a Phrofiad Cleifion: "Mae'r pandemig wedi bod yn gyfnod heriol iawn i'n rhieni beichiog a'u rhwydweithiau cymorth. Mae'r angen i gyfyngu ar ymweliadau partneriaid geni ar gyfer apwyntiadau mamolaeth ac ar ôl genedigaeth wedi bod yn eithriadol o anodd ond mae wedi bod yn gam angenrheidiol i sicrhau diogelwch cleifion.
"Wrth i'r pandemig leddfu, rydym yn falch ein bod bellach mewn sefyllfa i adolygu ein canllawiau ymweld a galluogi partner geni dynodedig i fod yn bresennol ar gyfer yr adegau pwysig hyn yn ystod beichiogrwydd ac ar ôl genedigaeth. Bydd ein timau bydwreigiaeth yn parhau i fonitro'r sefyllfa ac efallai y bydd angen iddynt ddiwygio ymweliadau lleol os bydd unrhyw achosion o COVID-19 ar y wardiau, ond rydym yn gobeithio bod hwn yn gam cadarnhaol ymlaen sy'n dod ag ymdeimlad o normalrwydd i brofiad ein rhieni newydd."
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn adolygu ei ganllawiau ymweld ehangach a bydd unrhyw newidiadau lleol yn cael eu cyfleu'n eang yr wythnos nesaf. Yn y cyfamser, gofynnir i bobl barhau i ddilyn y canllawiau bwrdd iechyd sydd ar waith ar hyn o bryd.