5 Ebrill 2023
Yn ystod cyfarfod y bwrdd cyhoeddus ar 30 Mawrth, cyhoeddwyd dau newid i aelodaeth y Bwrdd.
Gadawodd Paul Newman, Aelod Annibynnol o’r Bwrdd, ar ddiwedd mis Mawrth 2023, wrth i’w gyfnod fel Aelod Annibynnol (Cyfreithiol) dod i ben.
Dywedodd Maria Battle, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, “Gyda chalon drom y gwelwn ymadawiad Mr Paul Newman fel Aelod Annibynnol o'r Bwrdd ddiwedd mis Mawrth wrth i'w gyfnod ar y Bwrdd ddod i ben. Mae Paul wedi bod yn Aelod Annibynnol ers 2017, ac mae’n ffynnon o wybodaeth, sgiliau ac arbenigedd i'r Bwrdd.
“Fel Cadeirydd ein Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg, mae wedi diwygio sut mae'r Pwyllgor yn gweithredu ac wedi cryfhau a gwella yn sylweddol y sicrwydd y mae'r Bwrdd yn ei gael ar ei fframwaith rheoli mewnol. Hoffwn ddiolch yn ddiffuant i Paul am ei wasanaeth, ei gwnsler doeth a'i ymroddiad yn ei rôl fel aelod o’r Bwrdd, aelod Pwyllgor ac i GIG Cymru, a dymuno'n dda iddo yn y dyfodol.
Yn ystod y cyfarfod, rhannodd Miss Maria Battle, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, ei bwriad i ymddeol ar ddiwedd ei chyfnod fel cadeirydd yn nes ymlaen eleni: “Gan i ni dymuno'n dda i Paul, teimlaf hefyd ei bod hi'n amserol i rannu y bydd fy nghyfnod fel Cadeirydd yn dod i ben ym mis Awst eleni. Er mwyn sicrhau parhad y rôl wrth i mi gamu i ymddeoliad, rwyf, wrth drafod gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan AS, wedi cytuno y byddaf yn aros yn y swydd fel Cadeirydd tan ddiwedd mis Hydref 2023 tra byddwn ni'n recriwtio i'r swydd.
“Mae wedi bod yn anrhydedd gwasanaethu fel Cadeirydd y Bwrdd Iechyd, a gweithio ochr yn ochr â'n staff ymroddedig ac Aelodau'r Bwrdd sy'n gweithio'n ddiflino bob dydd i sicrhau iechyd a gofal ein cleifion a'n poblogaeth a chyflwyno ein strategaeth uchelgeisiol. Mae'n siŵr yn y misoedd nesaf y bydd digon o gyfle i gwrdd a diolch i unigolion sydd wedi fy nghefnogi yn ystod y cyfnod hwn.
“Rwy'n annog unigolion sydd â diddordeb mewn cefnogi uchelgeisiau ein Bwrdd Iechyd yn y dyfodol i wneud cais am swydd Cadeirydd neu Aelod Annibynnol (Cyfreithiol). Edrychaf ymlaen at weithio gyda'r rhai a benodwyd i sicrhau trosglwyddiad llyfn mewn arweinyddiaeth, a diolch i’m cydweithwyr am eich cefnogaeth barhaus yn y cyfamser.”
Mae penodi Aelodau Annibynnol y Bwrdd i fyrddau iechyd yn benodiadau cyhoeddus gan Lywodraeth Cymru. Anogir unigolion sydd â diddordeb mewn cyflwyno cais am rôl Cadeirydd neu Aelod Annibynnol (Cyfreithiol) i ymgeisio yn: Penodiadau Cyhoeddus - (tal.net)