Neidio i'r prif gynnwy

Newid mewn lleoliadau casglu ar gyfer Profion LFD

O ddydd Mercher 18 Awst 2021, bydd citiau hunan-brofi dyfais llif ochrol (LFD) ar gael i'w casglu o fferyllfeydd cymunedol yn unig ac nid o'r unedau profi COVID-19 sydd wedi'u lleoli yn Aberystwyth, Llanelli, Hwlffordd a Sir Gâr.

Mae citiau profi LFD hefyd yn parhau i fod ar gael i'w harchebu i'w danfon i'ch cartref trwy Wefan y GIG.

Yn lle hynny, bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIPHDd) yn cynyddu'r capasiti ar gyfer profion symptomatig (profion PCR) ar y safleoedd hyn, y mae'n rhaid eu harchebu ar-lein trwy www.gov.wales/coronavirus neu trwy ffonio 119.

Mae’r unedau profi Covid-19 wedi’u lleoli yn:

  • Canolfan Rheidol, Aberystwyth
  • Iard Dafen, Llanelli
  • Archifdy Sir Benfro, Hwlffordd
  • Maes Sioe Caerfyrddin

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cynghori pobl i gael prawf cyn pen pum niwrnod os oes ganddynt unrhyw un o'r symptomau canlynol:

  • Peswch parhaus newydd
  • Tymheredd uchel
  • Colli neu newid eich synnwyr arogl neu flas

Er mwyn helpu i nodi achosion COVID-19 cudd yn ein cymunedau wrth i amrywiadau newydd o'r feirws ddod i'r amlwg, mae'r bwrdd iechyd hefyd yn annog pobl i gael prawf os oes ganddynt unrhyw un o'r symptomau canlynol, sy'n newydd, yn barhaus a / neu'n anarferol i chi:

 

  • Symptomau annwyd ysgafn yr haf, gan gynnwys dolur gwddf, trwyn yn rhedeg, cur pen
  • Symptomau tebyg i ffliw, gan gynnwys myalgia (poen yn y cyhyrau); blinder gormodol; cur pen parhaus; trwyn yn rhedeg neu drwyn wedi'i rwystro; tisian yn barhaus; dolur gwddf a / neu crygni, prinder anadl neu wichian; cyfog; chwydu; neu ddolur rhydd
  • Teimlo'n sâl yn gyffredinol a hanes o fod mewn cysylltiad ag achos COVID-19 hysbys
  • Unrhyw symptomau newydd neu newid yn dilyn prawf negyddol blaenorol

Rhaid i chi hunan-ynysu ar unwaith am 10 diwrnod os oes gennych unrhyw un o'r symptomau uchod ac archebu prawf PCR.