Mae newidiadau dros dro yn cael eu gwneud ar ddwy ward yn Ysbyty Cyffredino Glangwili, Caerfyrddin, i ddiogelu cleifion ac atal lledaeniad COVID-19.
Mae Ward Dewi a Ward Merlin ar gau dros dro i dderbyniadau newydd gan fod nifer o gleifion wedi profi’n bosotif am COVID-19 ar y wardiau hyn dros y penwythnos. Mae llai na 25 unigolyn wedi profi’n bositif gyda COVID-19 rhwng y ddwy ward.
Mae pob claf yn yr ardaloedd hyn wedi’u profi ac yn cael gofal priodol, ac mae cyfathrebu rheolaidd gyda nhw a’u teuluoedd neu eu gofalwyr. Fel amddiffyniad ychwanegol, mae pob aelod o staff y ddwy ward yn cael eu sgrinio ac mae trefniadau staffio priodol ar waith, gan gynnwys mesurau atal a rheoli heintiau llym a defnydd priodol o offer amddiffyn personol.
Fel rhagofal, ac i ganiatáu amser i adolygu staff sydd wedi gweithio ar y wardiau, mae nifer o glinigau wedi’u gohirio a byddant yn cael eu haildrefnu.
Meddai Sarah Perry, Rheolwr Cyffredinol yr ysbyty: “Mae COVID-19 yn cylchredeg yn ein cymunedau, ond gyda phrofi ac olrhain a mesurau atal heintiau llym, rydym yn llawer mwy ymwybodol ac mewn sefyllfa well i ddelio â risgiau er mwyn diogelu ein cleifion a’n staff a’r gymuned ehangach.
“Dyma pam rydym wedi ynysu’r ddwy ward hon yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili ar hyn o bryd, yn unol â’n cynlluniau ar gyfer rheoli trosglwyddiad Covid yn yr ysbyty. Rydym yn monitro’r sefyllfa’n agos ac yn gweithio gyda phartneriaid yn cynnwys Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r awdurdod lleol.
“Mae’n amlwg bod achosion o COVID-19 yn codi yn ein hardal, a hoffwn gymryd y cyfle hwn i ofyn i bawb i ddilyn y canllawiau sydd ar waith i amddiffyn pawb.
“Cadwch eich hun a’ch anwyliaid yn ddiogel trwy olchi eich dwylo’n rheolaidd, cadw pellter o 2 fetr wrth bobl nad ydynt yn byw yn yr un tŷ â chi a gwisgo mwgwd pan nad yw’n posib bod 2 fetr arwahân.
“Gwyddom bod hyn yn teimlo’n anodd ar hyn o bryd wrth inni fyw a gweithio yn y gymuned hon, ond mae cymryd y camau hyn yn diogelu pob un ohonom.”
Os oes gennych unrhyw symptomau o COVID-19 – peswch newydd parhaus, tymheredd uchel, colled neu newid i arogl neu flas – trefnwch brawf trwy wefan y DU gyfan neu trwy’r gwasanaeth dwy-ieithog dros y ffôn trwy ffonio 119 rhwng 7am ac 11pm (gan pobl sydd ag anhawster clyw neu leferydd ffonio 18001 119).