Bydd prif fynedfa Ysbyty Glangwili ar gau dros dro am bum wythnos fel rhan o waith parhaus i wella cyfleusterau mamolaeth yn yr ysbyty. Bydd y fynedfa hon yn symud rhwng Mawrth 31 a Mai 4 i ganiatáu newid y brif fynedfa, gosod lloriau newydd y tu mewn i'r fynedfa, ac adeiladu grisiau newydd a phalmantu'n allanol. Bydd mynediad i'r rhai sy'n ymweld â Swît Cadi, Ward Cyn-enedigol, Clinig Dydd Cyn-enedigol, Uned dan Arweiniad Bydwragedd, Ward Geni a Ward Dinefwr trwy'r hen fynedfa nos. Bydd pobl sydd angen mynediad i rywle arall yn yr ysbyty yn cael eu hailgyfeirio trwy fynedfa'r Cleifion Allanol. Bydd arwyddion yn eu lle a bydd stondin cwrdd a chyfarch yn yr Adran Cleifion Allanol. Dywedodd Lisa Humphrey, Rheolwr Cyffredinol Dros Dro Menywod a Phlant ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Er mwyn ein galluogi i symud i'r cam nesaf yng nghynllun gwella'r gwasanaethau mamolaeth, mae'n angenrheidiol i'r brif fynedfa gael ei chau dros dro ar gyfer adnewyddu” “Rydym am sicrhau pobl y bydd sŵn ac aflonyddwch yn cael ei gadw i'r lleiafswm a bod trefniadau lleol yn cael eu gwneud i sicrhau bod teuluoedd, ymwelwyr, ein staff ac asiantaethau allanol yn cael gwybod am y gwaith hwn. “Diolch am eich amynedd. Rydym yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra a achosir.”
|