Gyda chalon drom y cyhoeddwn y bu farw Mr Jeremy Williams, ein Ymgynghorydd mewn Meddygaeth Frys, yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili yn dilyn salwch hir.
Jeremy oedd Cyfarwyddwr Clinigol y Bwrdd Iechyd ar Ofal Heb ei Drefnu a chyfrannodd am flynyddoedd lawer i’r Gwasanaeth Iechyd yn ein cymuned, gan achub bywydau a darparu arweinyddiaeth yn y maes. Roedd yn adnabyddus iawn ac roedd ei ffrindiau a’i gydweithwyr niferus – yn Hywel Dda ac ar draws Cymru – yn hoff iawn ohono. Gwyddai pawb am ei hoffter o rygbi a moduro ac roedd gwasanaethu am gyfnod fel meddyg tîm cenedlaethol Undeb Rygbi Cymru yn destun balchder mawr iddo.
Er nad oedd ei farwolaeth yn gysylltiedig â’r Coronafeirws COVID-19, daw ar adeg pan mae ein holl staff yn dangos dewrder yn wyneb y pandemig parhaus hwn. Mae ei deulu wedi dweud bod Jeremy yn siomedig iawn bod ei salwch wedi ei atal rhag gweithio ar y rheng flaen gyda’r tîm brys ac hefyd i gefnogi staff yn ystod hyn oll. Fodd bynnag, gwyddom y byddai wedi bod yn hynod falch o’r holl staff am eu gwaith caled ac ymroddiad diysgog i Hywel Dda a’r Gwasanaeth Iechyd. Mae ein cydymdeimlad dwysaf gyda’i deulu a’i ffrindiau agosaf ar yr adeg hon.