Neidio i'r prif gynnwy

Mynediad parhaus at gymorth gofal iechyd meddwl yng Ngheredigion

27 Mawrth 2025

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIP) yn rhoi sicrwydd i bobl yng Ngheredigion bod mynediad at gymorth iechyd meddwl brys a di-frys yn parhau yn dilyn newidiadau dros dro diweddar i brosesau atgyfeirio.

Gofynnir yn awr i bobl sy'n ymweld â'u meddyg teulu ac sydd angen rhagor o gymorth iechyd meddwl nad yw'n frys ffonio gwasanaeth cymorth iechyd meddwl GIG 111 Cymru Opsiwn 2.

Mae GIG 111 Cymru Opsiwn 2 yn rhoi’r claf mewn cysylltiad uniongyrchol ag ymarferydd llesiant iechyd meddwl lleol sy’n cael ei gefnogi gan nyrs iechyd meddwl gofrestredig bob amser, gan alluogi mynediad cyflym at gyngor, asesiad a chymorth iechyd meddwl.

Cafodd y newid dros dro sydd wedi bod ar waith ers 3 Mawrth 2025, ei gefnogi mewn cyfarfod o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ddydd Iau (27 Mawrth 2025) am gyfnod o chwe mis, ac mae’n disodli atgyfeiriad gan y meddyg teulu i’r tîm cymunedol, ar gyfer achosion nad ydynt yn rhai brys yn unig.

Y nod yw lleihau amseroedd aros i gleifion a phwysau ar y tîm cymunedol, tra bod prinder staff ac mae'r bwrdd iechyd yn parhau ag ymdrechion i recriwtio.

Gall meddygon teulu barhau i atgyfeirio cleifion sydd â'r angen mwyaf i'r tîm cymunedol. Mae gan feddygon teulu hefyd fynediad at linell gymorth 111 broffesiynol os ydynt yn pryderu na fydd claf yn ffonio’r gwasanaeth fel y cynghorir, neu os nad yw’r claf yn gallu gwneud hyn ei hun.

“Ein blaenoriaeth yw cynnal mynediad diogel ac effeithlon at ofal iechyd meddwl a sicrhau bod pob claf yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt, pan fydd ei angen arnynt” meddai Liz Carroll, Cyfarwyddwr Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu BIP Hywel Dda.

“Bydd y newid hwn yn galluogi pobl sydd angen cymorth a chyngor iechyd meddwl nad ydynt yn frys i gael mynediad at hyn yn gynt nag sydd wedi bod yn bosibl yn ddiweddar oherwydd pwysau staffio ac yn galluogi ein timau cymunedol i ganolbwyntio eu cymorth ar y rhai sydd â’r angen mwyaf.

“Rydym yn annog unrhyw un sydd angen cymorth iechyd meddwl i gysylltu â GIG 111 Cymru Opsiwn 2, am gymorth neu barhau i ymweld â’u meddyg teulu fel y byddent wedi ei wneud o’r blaen.”

Bydd un o bob pedwar ohonom yn profi cyflwr iechyd meddwl ar ryw adeg yn ein bywydau. Mae GIG 111 Cymru Opsiwn 2 ar gael 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos. Byddwch yn cael eich cysylltu'n uniongyrchol â gweithiwr iechyd meddwl proffesiynol o ardal Hywel Dda o fewn 10 munud.

Gallwch ffonio os oes angen i chi siarad â rhywun ar frys am eich iechyd meddwl, os ydych yn pryderu am aelod o’r teulu, neu os nad ydych yn siŵr ble i droi am gyngor ac arweiniad.

Mae’r rhif am ddim i’w ffonio o linell dir neu ffôn symudol, hyd yn oed os nad oes gennych unrhyw gredyd ar ôl. Gallwch hefyd ddewis opsiwn i rywun eich ffonio'n ôl.