Arhosodd grŵp o Fyfyrwyr Meddygol Caerdydd sydd yn eu trydedd flwyddyn yn Hywel Dda trwy gydol y cyfnod cloi i weithio fel Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd.
Ar gyfer carfan myfyrwyr 2019/20 mae COVID-19 wedi golygu bod eu profiad wedi bod yn wahanol iawn i'r un yr oeddent yn ei ddisgwyl. Penderfynodd chwech allan o saith myfyriwr ar leoliad yn Aberystwyth aros yn ystod y cyfnod cloi ac maent wedi bod yn gweithio yn eu meddygfeydd ac yn Ysbyty Cyffredinol Bronglais.
Mae'r myfyrwyr wedi bod yn gadarnhaol iawn am eu profiad a'r cyfleoedd sydd gan feddygaeth wledig i'w gynnig. Mae cyfran uchel o’r myfyrwyr wedi dweud eu bod am ddod yn ôl i Aberystwyth i wneud eu swyddi sylfaen yn Ysbyty Cyffredinol Bronglais ac yn ystyried gyrfa mewn practis cyffredinol gwledig.
Yn ystod y cyfnod cloi, fe wnaethant barhau i dderbyn addysg wythnosol gan Dr Sue Fish, yr Uwch Ddarlithydd Clinigol lleol a Thiwtor Meddygon Teulu ym Meddygfa Borth o bell trwy Microsoft Teams.
Llwyddodd y myfyrwyr a arhosodd a'r rhai a aeth adref i barhau i gynnal ymgynghoriadau rhithwir â chleifion o Feddygfa Borth, dan oruchwyliaeth Dr Fish, gan ddefnyddio'r Platfform Attend Anywhere a chysylltu o bell â Vision, cofnod cleifion Meddygfa Borth.
Meddai Dr Sue Fish, “Rwy’n hynod falch bod y myfyrwyr wedi gallu ac eisiau parhau â’u lleoliadau clinigol yn Aberystwyth trwy gydol y pandemig COVID a darparu cefnogaeth i’r Gwasanaeth Iechyd lleol a’r boblogaeth.”
“Mae’r ffordd y mae’r rhaglen arloesol hon yn cael ei darparu yn golygu nad oedd yn rhaid iddi stopio fel y gwnaeth yr holl leoliadau myfyrwyr meddygol byrrach confensiynol eraill ledled Cymru.”
Yn y llun: Alice Cartwright, Freya Crispin, Linnet Mensuoh, Emanuele Pirozzi, Francesca Saleh, Kayleigh Wijesinghe, Callum Wood.