Neidio i'r prif gynnwy

Mwy o frechlynnau COVID-19 ar eu ffordd i ardaloedd Hywel Dda

Bydd mwy o bobl yn ardal Hywel Dda yn dechrau cael eu galw i ddod am frechiadau COVID-19 o ganlyniad i newyddion diweddar bod brechlyn newydd Oxford/AstraZeneca wedi'i gymeradwyo i'w ddefnyddio gan yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA).

Hyd yn hyn, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi darparu mwy na 7,000 dos brechlyn cyntaf, gan ddefnyddio’r brechlyn Pfizer ers ei gymeradwyaeth ym mis Rhagfyr 2020.

Oherwydd cyfyngiadau logistaidd y brechlyn Pfizer, gan gynnwys storio, cludo a gweinyddu, darparwyd hwn yn bennaf i staff cartrefi gofal, a gweithwyr gofal a gweithwyr y Gwasanaeth Iechyd sy’n ymwneud yn uniongyrchol â chleifion ar draws y tair sir.

O’r wythnos nesaf, bydd y bwrdd iechyd yn cael - i ddechrau - cyflenwadau cyfyngedig o’r brechlyn Oxford/AstraZeneca, gan adeiladu i niferoedd llawer mwy trwy fis Ionawr.

Y flaenoriaeth yr wythnos nesaf fydd trwy nifer fechan o feddygfeydd i ddechrau, i alw pobl dros 80 oed i gael eu brechu yn lleol, yn ogystal â pharhau i frechu staff cartrefi gofal a gweithwyr gofal a’r Gwasanaeth Iechyd gyda'r cyflenwadau brechlyn Pfizer.

Mae gwaith yn parhau ar y cyd â chydweithwyr gofal sylfaenol, fel y bydd nifer cynyddol o feddygfeydd ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro erbyn canol mis Ionawr yn galw cleifion ddod am y brechlyn, yn ogystal â darparu brechiadau ar gyfer mwy o breswylwyr cartrefi gofal.

Bydd staff iechyd a gofal yn parhau i gael eu galw i’w brechu yn un o’r canolfannau torfol yng Nghaerfyrddin ac Aberteifi.

Mae’r bwrdd iechyd hefyd yn gweithio ar sefydlu mwy o ganolfannau brechu yn y gymuned i gefnogi darpariaeth y bwrdd iechyd a gofal sylfaenol yn Aberystwyth, Llanelli a Hwlffordd, wrth i fwy o ddosau o’r brechlyn gael eu darparu. Rhoir cyhoeddiadau pan fydd manylion yn derfynol a bydd y safleoedd yn cael eu cyflwyno’n raddol yn unol â threfniadau logistaidd.

Meddai’r Prif Weithredwr Steve Moore: “Mae’r pandemig hwn wedi bod yn gyfnod mor frawychus i’n cleifion, i’n cymunedau a’n staff gofal a’r Gwasanaeth Iechyd. Rydym yn cydnabod yr her hefyd wrth ddechrau’r rhaglen frechu dorfol fwyaf erioed i’r GIG. Ond rydym yn bles iawn ein bod eisoes wedi brechu miloedd o bobl yn ardal Hywel Dda. Rydym yn ddiolchgar iawn am y gobaith newydd i’n cymunedau a ddaw o’r brechlyn Oxford/AstraZeneca. Mae’n frechlyn llawer haws i ni ei ddarparu yn ein cymunedau ac rydym yn ddiolchgar i’t holl dimau sy’n cyd-weithio i gyflawni ac ehangu’r rhaglen hon.

“Gofynnwn i’n cymunedau fod yn amyneddgar. Gofynnwn i chi beidio â ffonio eich meddygfeydd nac ysbytai i geisio cael gwybod pryd y byddwch yn cael eich brechu – byddwch yn dawel eich meddwl y byddant yn eich galw am eich brechlyn ar yr amser priodol. Ond gofynnwn i chi hefyd fod yn barod i dderbyn y cynnig am y brechlyn. Bydd yn rhoi amddiffyniad gwych i chi rhag y clefyd hwn sydd wedi cael effaith mor sylweddol ar fywyd pob un ohonom.”

Ychwanega Dr Sion James, Dirprwy Gyfarwyddwr Meddygol Gofal Sylfaenol a Gwasanaethau Cymunedol: "Dyma gyfnod cyffrous i Gontractwyr Gofal Sylfaenol i fod yn rhan o raglan frechu hanesyddol, gan gyd-weithio â’n cyd-weithwyr yn y bwrdd iechyd. 

“Gofynnwn i bobl aros nes eu bod yn cael eu galw i gael eu brechu gan y byddwn yn gweithio trwy’r grwpiau blaenoriaeth a osodwyd gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu i sicrhau mynediad teg at y brechlyn."

Yn ddealladwy, bydd nifer o gwestiynau am y brechlynnau COVID-19. Ni fyddai’r brechlynau wedi’u cymeradwyo a’u rhyddhau pen a baent yn ddiogel. Trowch at http://phw.nhs.wales/covid-19-vaccination am fwy o wybodaeth ar gymhwystra a diogelwch y brechlynnau.

Byddwn yn gwneud cyhoeddiadau pellach maes o law.