Neidio i'r prif gynnwy

Monitro cardiaidd o'r radd flaenaf ar gyfer cleifion Ysbyty Llwynhelyg

21 Medi 2021

Mae prosiect uchelgeisiol 18 mis i ddatblygu monitro cardiaidd yn Ysbyty Llwynhelyg wedi'i gwblhau.

Mae chwe deg pump o fonitorau cardiaidd rhwydwaith o'r radd flaenaf wedi'u gosod ar draws wyth maes clinigol gyda chwe gorsaf ganolog ddiagnostig gwbl integredig.

Mae'r llwybr clinigol yn cychwyn yn yr Adran Achosion Brys lle mae cleifion yn cael eu derbyn i orsaf monitro cardiaidd. Mae demograffeg electrocardiogram llawn y claf (ECG) yn cofnodi’n barhaus ac mae pob eiliad o ddata demograffig ECG y claf yn cael ei lawrlwytho’n ddi-dor i’r orsaf ganolog. Mae hyn yn cynnwys yr amser a dreuliwyd yn yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys a'r siwrnai rhwng adrannau, fel petai'r claf wedi bod yn y ward gardiaidd trwy'r amser. Gall cardiolegwyr ddadansoddi'r llinell amser fanwl hon o ddata a digwyddiadau ECG ar unrhyw adeg. Yn flaenorol, dim ond o'r adeg y byddai'r claf wedi cyrraedd y ward gardiaidd y byddai'r data wedi bod ar gael.

Mae'r adrannau wedi'u cysylltu gan rwydweithiau meddygol fel y gellir gweld unrhyw fonitor mewn unrhyw adran o orsafoedd canolog ward gardiaidd neu unrhyw fonitor ar y rhwydwaith. Gall y cardiolegydd weld monitor claf o ffôn symudol neu dabled o unrhyw le yn y byd.

Yn ogystal â'r uchod, rydym wedi gosod system telemetreg RF fwyaf y DU. Gellir monitro cleifion sy'n symudol yn fanwl o'r orsaf gardiaidd ganolog heb gael eu cyfyngu i ardal gwely gan geblau. Mae cleifion wedi'u cysylltu â throsglwyddydd telemetreg bach maint ffôn symudol, y maen nhw'n ei gario o gwmpas gyda nhw. Mae ganddyn nhw'r hyblygrwydd i gwrdd â pherthnasau ar y llawr gwaelod neu y tu allan i du blaen yr ysbyty wrth gael eu monitro yn yr orsaf ganolog yn y ward gardiaidd.

Dywedodd yr Athro Chris Hopkins, Pennaeth Peirianneg Glinigol: “Mae'r system newydd hon yn caniatáu monitro data cleifion amser real, gan sicrhau gofal a chefnogaeth cleifion o ansawdd uchel, sydd hefyd yn gyflym a hyblyg. “Rwy’n falch iawn o’r gwaith a wnaed gan y tîm Peirianneg Glinigol yn ystod cyfnod anodd iawn.

Dywedodd Dr Nikolaos Anatoliotakis, Cardiolegydd Ymgynghorol: “Mae’r system fonitro cardiaidd ahygoel yn arloesol. Mae'r effaith ar ofal cleifion yn fawr gan ei fod hyn yn caniatáu i feddygon a nyrsys gael data ECG amser real ledled yr ysbyty. Rydym i gyd yn falch iawn o'r arloesedd yma a hoffem ddiolch i bawb am yr holl waith caled a wnaed ar y prosiect hwn."