Neidio i'r prif gynnwy

Mesurau ychwanegol i amddiffyn cleifion yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili

Arwydd Ysbyty Glangwili

Gall Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda gadarnhau, er gwaethaf gwelliannau yng nghyfradd heintiau COVID-19 ar draws ein cymuned yn ystod yr wythnosau diwethaf, ein bod yn parhau i reoli nifer sylweddol o gleifion yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili sydd wedi profi'n bositif am COVID-19 ac rydym yn eu cymryd mesurau ychwanegol i amddiffyn cleifion a helpu i atal y feirws rhag lledaenu ymhellach.

Ar hyn o bryd mae tua 70 o gleifion mewnol wedi cadarnhau'n bositif gyda'r feirws ac yn derbyn gofal priodol ar draws nifer o ardaloedd ward, gyda chyfathrebu rheolaidd â nhw a'u teuluoedd neu ofalwyr.

Fel rhagofal ychwanegol, mae'r holl staff sy'n gweithio mewn ardaloedd yr effeithir arnynt yn cael eu sgrinio ac mae trefniadau staffio priodol ar waith, gan gynnwys mesurau atal a rheoli heintiau llym a defnydd priodol o Offer Amddiffyn Personol.

Er mwyn diogelwch ac i ganiatáu amser i adolygu staff sy'n gweithio yn yr ardaloedd hyn yn ddiogel, rydym wedi aildrefnu nifer fach o glinigau a fydd yn cael eu haildrefnu cyn gynted â phosibl. Cysylltir yn uniongyrchol ag unrhyw gleifion yr effeithir arnynt. Byddem yn annog pob claf arall nad yw'n profi symptomau COVID-19 i fynychu eu clinig cleifion allanol neu apwyntiadau profion diagnostig fel y cynlluniwyd gan fod y mwyafrif o'r rhain yn cael eu cynnal i ffwrdd o'r wardiau cleifion mewnol. Os ydych chi'n sâl neu'n profi symptomau COVID-19, ffoniwch i aildrefnu eich apwyntiad.

Mae ein gwasanaethau gofal brys a chritigol yn parhau i weithredu fel arfer a dylech barhau i gael mynediad i'r ysbyty i gael gofal brys.

Dywedodd Rheolwr Cyffredinol yr Ysbyty, Sarah Perry: “Mae COVID-19 yn cylchredeg yn ein cymunedau, ond diolch i brofi ac olrhain, a mesurau atal heintiau llym, rydym yn llawer mwy ymwybodol ac yn gallu delio â risgiau er mwyn amddiffyn ein cleifion, staff a cymuned ehangach.

“Ar hyn o bryd rydym yn rheoli nifer sylweddol o gleifion â’r feirws yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili ac yn monitro’r sefyllfa’n agos, gan weithio gyda phartneriaid gan gynnwys Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r awdurdod lleol.

“Hoffem achub ar y cyfle hwn i ofyn i bawb barhau i ddilyn y canllawiau sydd ar waith i’n hamddiffyn ni i gyd.

“Cadwch eich hunain a'ch anwyliaid yn ddiogel os gwelwch yn dda trwy olchi'ch dwylo'n rheolaidd, aros 2 fetr ar wahân i bobl y tu allan i'ch cartref, a gwisgo gorchudd wyneb pan nad yw'n bosibl bod 2 fetr ar wahân.

 “Rydyn ni'n gwybod bod hyn yn teimlo'n anodd iawn ar hyn o bryd gan ein bod ni'n byw ac yn gweithio yn y gymuned hon, ond mae cymryd y camau hyn yn ein hamddiffyn ni i gyd."

Os oes gennych unrhyw symptomau o COVID-19 - peswch parhaus newydd, tymheredd uchel, neu golled neu newid i ymdeimlad o arogl neu flas - archebwch brawf trwy'r wefan y DU neu trwy'r gwasanaeth ffôn dwyieithog cenedlaethol trwy ddeialu 119 rhwng 7am ac 11pm (gall pobl ag anawsterau clyw neu leferydd ffonio 18001 119).