Neidio i'r prif gynnwy

Meddygfa Trimsaran i groesawu cleifion yn ôl o 5 Gorffennaf

02 Iau 2021

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn falch o gadarnhau ailagor Meddygfa Trimsaran yn dilyn ei ddefnyddio dros dro fel canolfan brechu COVID-19 a ffliw ar gyfer cleifion Meddygfa Minafon a Meddgyfa’r Sarn.

Caeodd y feddygfa dros dro y gwanwyn diwethaf ar ddechrau'r pandemig a chafodd gwasanaethau eu dargyfeirio i'r brif practis, Meddygfa Minafon.

Yn ystod y rhaglen frechu COVID-19, rhoddodd y feddygfa 6777 dos o frechlyn AstraZeneca Rhydychen i aelodau'r gymuned.

Ar ôl cwblhau'r grwpiau cymwys hynny a ddyrannwyd i'r meddygfeydd i frechu, mae'r bwrdd iechyd nawr yn edrych i adfer ystod o wasanaethau ym Meddygfa Trimsaran o ddydd Llun 5 Gorffennaf gan gynnwys:

  • Apwyntiadau brys gan feddygon teulu (yn amodol ar frysbennu)
  • Clinigau nyrsio ystafell driniaeth
  • Sesiynau fflebotomi
  • Clinigau bydwragedd

Bydd system brysbennu ffôn yn parhau ar gyfer y rhai sy'n gofyn am apwyntiad, gydag asesiadau'n cael eu cynnal lle bo hynny'n glinigol briodol ac yn ddiogel i wneud hynny. Pan fydd meddyg teulu yn asesu bod angen i glaf gael ei weld wyneb yn wyneb, trefnir hyn.

Mae pellhau cymdeithasol a defnyddio gorchuddion wyneb yn parhau i fod ar waith ar draws safleoedd gofal sylfaenol er diogelwch cleifion a staff. Mae nifer yr ymwelwyr yn y practis yn cael eu cadw i'r lleiafswm, a gofynnir i gleifion ddefnyddio'r blwch diogel wrth y fynedfa i ollwng ceisiadau presgripsiwn.

Dywedodd Jill Paterson, Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol, Gwasanaethau Cymunedol a Gofal Hirdymor ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rwy’n falch iawn y bydd gwasanaethau’n dychwelyd i Feddygfa Trimsaran a hoffwn ddiolch i bobl leol am eu hamynedd a’u dealltwriaeth yn ystod y cyfnod hwn.

“Hoffwn hefyd ddiolch i gleifion am eu cydweithrediad yn ystod yr amser ansefydlog hwn; rwy'n gwerthfawrogi bod llawer o bobl wedi gorfod teithio i Feddygfa Minafon gyfagos i gael gwasanaethau hanfodol.

“Tra bod y Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol yn dal i fod dan bwysau sylweddol, bydd y tîm yn Trimsaran yno i gleifion, gan ddarparu ymgynghoriadau a chyngor dros y ffôn a thrwy alwadau fideo, a gweld pobl wyneb yn wyneb lle bo hynny'n briodol.”