Neidio i'r prif gynnwy

Meddygfa Neyland a Johnston yn dod yn bractis a reolir

Mae Meddygfa Neyland a Johnston wedi trosglwyddo i gael ei rheoli gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Mae hyn yn dilyn ymddiswyddiad y contract Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol a oedd gan y cyn Bartneriaid Meddygon Teulu gyda'r Bwrdd Iechyd ac mae'n adlewyrchu dymuniadau'r mwyafrif o gleifion a rhanddeiliaid bod y Practis yn parhau i fod yn wasanaeth hanfodol i bob claf yn y cymunedau y mae'n eu gwasanaethu.

Er bod y cyn Bartneriaid Meddygon Teulu naill ai wedi ymddeol neu wedi gadael y Practis, mae staff y Practis wedi trosglwyddo i gyflogaeth y Bwrdd Iechyd. Mae’r Bwrdd Iechyd yn ddiolchgar i’r tîm hwn sydd wedi gweithio drwy’r cyfnod anodd dros yr wythnosau diwethaf, a’r gobaith yw y bydd hyn yn darparu parhad pwysig i gleifion.

Nid oes angen i gleifion wneud unrhyw beth gan fod cofrestriad awtomatig yn aros gyda Meddygfa Neyland a Johnston, a dylai cleifion barhau i gael mynediad at wasanaethau fel arfer. Fodd bynnag, mae'r Practis yn mynd trwy gyfnod o drawsnewid dros yr ychydig fisoedd nesaf, a gall hyn gynnwys rhai newidiadau graddol mewn systemau a phrosesau y tu ôl i'r llenni.

Dywedodd Jill Paterson, Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol, Cymunedol a Gofal Hirdymor Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Hoffai’r Bwrdd Iechyd ddiolch i gleifion am eu cefnogaeth barhaus i dîm y Feddygfa.

“Tra bod recriwtio meddygon teulu yn her sylweddol ar draws y DU, mae ymdrechion i recriwtio meddygon teulu i ymuno â’r Practis ar y gweill a’r gobaith yw y bydd modd sefydlu cyfuniad o feddygon teulu parhaol newydd a locwm rheolaidd yn fuan iawn.

“Yn y cyfamser, mae’n debygol y bydd y Practis yn ddibynnol ar feddygon teulu locwm profiadol, y rhan fwyaf ohonynt wedi gweithio mewn Practisau lleol eraill yn Sir Benfro. Bydd gan y meddygon teulu locwm hyn fynediad llawn at nodiadau a chofnodion cleifion a chânt eu cefnogi gan dîm amlddisgyblaethol ehangach y Practis.”

Mae gwefan y practis yn cael ei hail-lansio ym mis Tachwedd a gellir ei chyrchu yn https://neylandandjohnstonsurgery.nhs.wales/. Bydd y wefan yn cynnwys manylion am sut i gofrestru ar gyfer archebu presgripsiynau amlroddadwy ar-lein (a elwir yn Fy Iechyd Ar-lein), a sut i gysylltu â’r practis ar-lein ar gyfer problemau nad ydynt yn rhai brys.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, ffoniwch ni ar 0300 303 8322 (opsiwn 5), neu e-bostiwch ask.hdd@wales.nhs.uk .