30 Medi 2022
Bydd Meddygfa Neyland a Johnston yn cael ei rhedeg fel practis a reolir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, penderfynwyd ddoe (dydd Iau 29 Medi 2022).
Ni fydd angen i unrhyw glaf symud i bractisau lleol eraill, gan drosglwyddo’n awtomatig o dan reolaeth y Bwrdd Iechyd a’i staffio gan yr un tîm lle bynnag y bo modd.
Rhoddodd y Practis hysbysiad ar ei gontract gyda’r Bwrdd Iechyd, a ddaw i rym o ddiwedd mis Hydref 2022.
Cyfarfu panel i ystyried opsiynau ar gyfer y dyfodol a chynhaliwyd ymarfer ymgysylltu gan y Bwrdd Iechyd i glywed barn cleifion a phobl a sefydliadau â diddordeb.
Derbyniwyd mwy na 1,300 o ymatebion gyda llawer o gleifion yn dweud eu bod yn gwerthfawrogi gwasanaethau yn cael eu darparu ar eu cyfer yn eu cymuned leol.
Er bod y panel yn cynnig opsiwn i’r Bwrdd Iechyd reoli cangen Neyland o’r practis a gwasgaru cleifion yn Johnston i amrywiaeth o bractisau cyfagos, adolygodd y Bwrdd Iechyd yr holl wybodaeth a phenderfynodd gadw’r rhestr cleifion gyfan, yn seiliedig ar adeilad Sant Clement yn Neyland.
Dywedodd Maria Battle, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym yn Fwrdd sy’n gwrando, ac rydym wedi gwrando ar gleifion Meddygfa Neyland a Johnston, wedi ystyried y wybodaeth newydd ac rwy’n falch o gadarnhau y byddwn yn parhau i gynnig gwasanaethau meddygon teulu iddynt drwy bractis a reolir gan y bwrdd iechyd.
“Ar ran y Bwrdd hoffwn ddiolch i bawb a roddodd o’u hamser i roi eu hadborth, sydd wedi bod yn hanfodol wrth lunio ein penderfyniad heddiw ac i’n tîm gofal sylfaenol sydd wedi gwneud popeth posibl i gefnogi parhad y Practis yn yr amser byr iawn a roddwyd iddynt.”
Ychwanegodd Jill Paterson, Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol, Cymunedol a Gofal Hirdymor, o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Hoffem ddiolch i’r holl gleifion a rhanddeiliaid lleol a ymatebodd i’n hymarfer ymgysylltu a rhannu eu barn.
“Roedd yn amlwg o’r adborth faint mae cleifion yn gwerthfawrogi eu gwasanaethau lleol yn eu cymunedau. Er y bydd cael practis wedi’i reoli yn dod â rhai heriau i’r Bwrdd Iechyd, rydym yn falch o fod yn cynnig yr opsiwn agosaf at wasanaethau presennol i gleifion.”
Yn hanesyddol mae'r Practis wedi darparu gwasanaethau meddygol cyffredinol o ddwy gangen, ond ers y pandemig COVID yn gynnar yn 2020 nid yw cangen Johnston wedi gallu cynnig apwyntiadau meddyg teulu arferol ar y safle, sydd wedi'u darparu yn lle hynny o Neyland.
Bydd y Bwrdd Iechyd yn gweithio gyda thîm y practis i barhau i gynnig gwasanaethau diogel ac effeithiol i gleifion.
Bydd y Bwrdd Iechyd yn ysgrifennu at bob claf unwaith y bydd y manylion terfynol wedi'u cadarnhau.
I wylio’r cyfarfod, ewch i: https://biphdd.gig.cymru/amdanom-ni/eich-bwrdd-iechyd/cyfarfodydd-y-bwrdd-2022/agenda-a-phapuraur-bwrdd-29-medi-2022/