Neidio i'r prif gynnwy

Mainc goffa wedi'i gosod yn Ysbyty Tywysog Philip er cof am Paul Maulkin

13/12/2021

Mae mainc goffa wedi’i gosod yng Nghwadrant y Fferyllfa yn Ysbyty Tywysog Philip er cof am borthor Paul Maulkin, a fu farw yn anffodus eleni. 

Cododd tîm porther Paul dros £1,700 trwy gasglu arian o wahanol adrannau yn yr ysbyty i fynd tuag at brynu’r fainc a phlac er cof amdano. 

Rhoddwyd arian dros ben o’r casgliad i'r uned canser y fron yn yr ysbyty trwy benderfyniad teulu Paul. 

Dywedodd Owen Jenkins, porthor a phartner sifft Paul yn Ysbyty Tywysog Philip: “Hoffem estyn ddiolch mawr i unrhyw un a roddodd arian er cof am Paul. Roedd pawb mor hoff o Paul. Roedd ganddo galon fawr, ac roedden ni i gyd yn meddwl y byd ohono. 

"Roedd e bob amser mor hawdd siarad â fe, pe byddech chi dan straen am unrhyw beth, bydd e bob amser yn eich gwneud i chi deimlo’n dibryder.”

Gweithiodd Paul fel porthor yn Ysbyty Tywysog Philip am dros 15 mlynedd. Bydd colled fawr ar ei ôl gan gydweithwyr a ffrindiau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.