Neidio i'r prif gynnwy

Mae Omicron yn rhoi mwy o straen ar wasanaethau Gofal Sylfaenol

11 Ionawr 2022

Mae’r her gynyddol ar ofal iechyd o’r amrywiad Omicron ar hyn o bryd yn effeithio ar bob rhan o ofal iechyd, gan gynnwys darpariaeth meddygon teulu, deintyddol, fferylliaeth ac optometreg.

Mae meddygfeydd ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro yn parhau i fod dan bwysau sylweddol ac o ganlyniad, efallai y bydd mwy o apwyntiadau’n cael eu cynnig dros y ffôn neu ar-lein.

Os gofynnir i chi ddod i'r feddygfa yn bersonol, gwnewch hynny ar eich pen eich hun oni bai bod angen cymorth arnoch, a chofiwch wisgo mwgwd wyneb.

Mae gan y rhan fwyaf o feddygfeydd systemau ar-lein, fel E-Consult neu Ask My GP, i ganiatáu i gleifion ofyn cwestiwn nad yw’n fater brys am eu hiechyd. Gweler gwefan eich Practis am ragor o wybodaeth.

Mae Fy Iechyd Ar-lein yn parhau i fod yn opsiwn ar-lein 24/7 ar gyfer archebu meddyginiaeth amlroddadwy; wedi'i gynllunio er hwylustod cleifion ac yn arbennig o ddefnyddiol i'r rhai sy'n hunan-ynysu neu'n gwarchod eu hunain. Gall cleifion gofrestru ar gyfer hyn trwy eu Meddygfeydd. Caniatewch amser ychwanegol wrth archebu presgripsiynau.

Mae systemau brysbennu dros y ffôn ar waith yn y mwyafrif o feddygfeydd i sicrhau bod claf yn siarad ag aelod o staff clinigol am ei iechyd.

Os bydd angen gweld claf yn bersonol, bydd y feddygfa'n gwneud apwyntiad gyda'r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol mwyaf priodol ar gyfer ei angen.

Oherwydd problemau staffio rydym hefyd wedi gweld effaith dros yr wythnosau diwethaf ar bwysau gwasanaeth mewn fferyllfeydd cymunedol, deintyddion ac optometryddion. Rydym yn parhau i weithio gyda’n holl wasanaethau Gofal Sylfaenol i wneud yn siŵr ein bod yn gallu darparu gofal amserol a phriodol ond gofynnwn i ni ddangos amynedd a charedigrwydd i staff gan eu bod yn gweithio’n galed iawn i geisio darparu’r gwasanaethau y gall cleifion fel arfer eu disgwyl derbyn oddi wrthynt. 

Gall gwasanaethau amrywio yn dibynnu ar amgylchiadau practis deintyddol unigol, a sicrhewch eich bod yn cysylltu â'ch practis a fydd yn gallu rhoi cyngor priodol.

Efallai y gwelwch fod yn rhaid i chi aros ychydig yn hirach nag arfer i dderbyn eich meddyginiaeth ar bresgripsiwn a byddem yn gofyn i chi ganiatáu saith niwrnod ar gyfer unrhyw feddyginiaeth arall.

Dywedodd Jill Paterson, Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol, Cymunedol a Gofal Hirdymor ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Rydym yn dymuno sicrhau cleifion bod gwasanaethau meddyg teulu yn dal i fod ar gael i chi. Pan fyddwch yn cysylltu â'ch practis, byddwch yn siarad â'r person mwyaf priodol ar gyfer eich cyflwr ac os bydd angen i chi gael eich gweld yn bersonol, byddwch yn cael apwyntiad yn y practis.

“Efallai y bydd yn cymryd mwy o amser nag arfer i gysylltu â chi ar y ffôn ac efallai y byddwch am gysylltu â’ch meddygfa ar-lein, os yn bosibl.

“Rydym wedi cael adroddiadau o gam-drin geiriol wedi’u targedu at staff Gofal Sylfaenol ac ni fydd hyn yn cael ei oddef; cofiwch eu bod yn gweithio'n galed iawn i helpu eu cleifion a diolchwn ichi am eich amynedd ar yr adeg hon.

“Gellir trin llawer o gyflyrau dros y ffôn gyda chyngor ac os oes angen, gellir rhoi presgripsiwn i'ch fferyllfa enwebedig. Peidiwch ag oedi cyn ceisio triniaeth.

“Mae fferyllfeydd yn cynnig ystod eang o wasanaethau gan gynnwys triniaeth ar gyfer mân anhwylderau. Sylwch fod fferyllfeydd hefyd yn gweithredu hyd eithaf eu gallu ac efallai y bydd yn rhaid i chi aros yn hirach nag arfer.”

I ddarganfod pa wasanaethau y mae eich fferyllfa gymunedol yn eu cynnig, ewch i: https://biphdd.gig.cymru/gofal-iechyd/gwasanaethau-a-thimau/fferyllfa/ (agor mewn dolen newydd)

Cofiwch wisgo gorchudd wyneb wrth ymweld ag unrhyw gyfleuster gofal iechyd. Mae cadw pellter cymdeithasol a defnyddio PPE ar waith ar draws yr holl wasanaethau er diogelwch cleifion a staff. Bydd gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy'n gweld cleifion wyneb yn wyneb i asesu neu ddarparu triniaeth yn defnyddio'r PPE priodol ac mae sgriniau ar waith wrth rai cownteri a derbynfeydd.