25 Mawrth 2025
Bydd oriau agor dros dro ar benwythnosau gwasanaeth Gofal Brys yr Un Diwrnod yng Nghanolfan Gofal Integredig Aberteifi yn dod i ben ddydd Sul 30 Mawrth 2025.
Daw hyn wrth i gyllid 50 diwrnod Llywodraeth Cymru, sydd wedi galluogi’r gwasanaeth i weithredu ar ddydd Sadwrn a dydd Sul ers 11 Ionawr, ddod i ben.
Yn ystod y saith penwythnos cyntaf, gwelodd y gwasanaeth 845 o gleifion, y byddai tua 75% ohonynt fel arall wedi mynd i adran achosion brys.
Roedd y model gweithio saith diwrnod hefyd yn hwyluso treial o fodel gofal Ward Digidol. Dros ddau fis, cafodd 63 o gleifion eu ‘derbyn yn rhithiol’ a derbyn gofal yn nes at eu cartrefi, gan ddangos y potensial ar gyfer atebion gofal iechyd arloesol.
Mae asesiad ar y gweill ar hyn o bryd i ddeall effaith gweithredu'r gwasanaethau ar draws y penwythnosau. Bydd y gwerthusiad hwn yn dechrau unwaith y bydd y treial tri mis wedi'i gwblhau.
Dywedodd John Evans, Cyfarwyddwr Sir Ceredigion a Sir Benfro yn BIP Hywel Dda: “Mae’r oriau agor dros dro ar y penwythnos wedi rhoi cymorth amhrisiadwy i’n cymuned, gan leihau’r straen ar adrannau damweiniau ac achosion brys a chaniatáu i ni archwilio modelau gofal newydd.
“Rydym yn ddiolchgar am yr holl adborth cadarnhaol gan y rhai sydd wedi defnyddio’r gwasanaeth ac yn edrych ymlaen at ganlyniadau’r asesiad parhaus.”
Bydd gwasanaeth Gofal Brys yr Un Diwrnod yng Nghanolfan Gofal Integredig Aberteifi (SA43 1JX) yn parhau i fod ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, 8.00am - 6.00pm. Gall cleifion gerdded i mewn ond fe'u hanogir i ffonio 01239 803075 yn gyntaf i siarad â nyrs brysbennu a threfnu amser apwyntiad.
Os oes gennych angen gofal mwy brys, ewch i adran achosion brys neu mewn argyfwng meddygol sy’n bygwth bywyd, ffoniwch 999.