06 Awst 2025
Mae gwasanaeth galw heibio iechyd anabledd dysgu wythnosol ar gael yng Nghaerfyrddin, sy’n cynnig cymorth hygyrch, cyfeillgar i oedolion ag anableddau dysgu.
Cynhelir y sesiynau galw heibio bob dydd Iau rhwng 12.30pm a 2.30pm yng Nghanolfan Byw yn Dda, Adeilad 1, Parc Dewi Sant, Heol Ffynnon Job, Caerfyrddin, SA31 3HB.
Cynhelir y sesiynau gan Dîm Hwyluso Iechyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, grŵp o nyrsys a gweithwyr cymorth sydd â phrofiad o gyfathrebu ag oedolion ag anableddau dysgu a’u cefnogi.
Mae’r gwasanaeth yn agored i unrhyw oedolyn ag anabledd dysgu a hoffai help i ddeall eu hiechyd, sydd angen cymorth i baratoi ar gyfer neu drefnu eu Gwiriad Iechyd Blynyddol neu a hoffai wybod mwy am wasanaethau anabledd dysgu lleol i oedolion. Nid oes angen apwyntiad - galwch heibio.
Gallwn hefyd gefnogi teuluoedd a gofalwyr pobl ag anableddau dysgu i ddeall rhai o anghenion iechyd allweddol pobl ag anableddau dysgu a chyfeirio at gymorth ac adnoddau perthnasol.
“Rydyn ni eisiau i bobl deimlo’n hyderus a’u bod nhw’n cael cefnogaeth gyda’u hiechyd,” meddai Tyler Payne (Nyrs Hwyluso Iechyd).
“Mae ein sesiynau galw heibio yn fan diogel i ddod am gyngor, gwybodaeth, neu ddim ond am sgwrs. Rydyn ni yma i wrando a helpu sut bynnag y gallwn.”
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â LearningDisability.HealthLiaison@wales.nhs.uk