Neidio i'r prif gynnwy

Mae cydlynydd uned famolaeth yn codi ysbrydion pobl trwy gân yn ystod y pandemig

Lleisiodd cydlynydd uned famolaeth o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda sut y trodd at gerddoriaeth i wneud iddi hi ac eraill deimlo'n well trwy COVID-19.

Mae Victoria Evans, sy’n gweithio yn Ysbyty Glangwili yn mynegi sut y gwnaeth canu ei helpu trwy ansicrwydd y pandemig ar gyfres podlediad newydd y bwrdd iechyd.

“Roedd yn eithaf anodd delio â llafur mewn PPE, roedd yn rhaid i ni wisgo PPE gyda fisorau a phopeth.

“Roedd yn rhaid i’r mamau ein hwynebu yn gwisgo hynny i gyd, felly roedd honno’n un her. Doedden nhw ddim yn gallu clywed yr hyn roedden ni'n ei ddweud. ”

Roedd mesurau diogelwch COVID-19 yn golygu nad oedd partneriaid yn gallu mynd gyda mamau a oedd yn rhoi genedigaeth ar y ward esgor.

“Roedd yn rhaid i’r bydwragedd fod yn bartneriaid mewn ffordd, roedd yn rhaid iddyn nhw dreulio llawer mwy o amser gyda’r mamau oherwydd roedden nhw heb â bartneriaid.

“Roedd yn rhaid i ni gael mwy o staff yn ystod y pandemig, oherwydd roedd yn rhaid gofalu am ferched â phrawf Covid positif mewn ardal ar wahân.”

Cefnogodd Victoria fydwragedd yn yr Uned dan Arweiniad Bydwreigiaeth, a ddaeth yn ardal parth coch ar gyfer menywod positif COVID-19.

Dechreuodd Victoria weithio gyda'r tîm imiwneiddio hefyd, i helpu i frechu staff yn Ysbyty Glangwili.

“Roeddwn i eisiau helpu oherwydd i mi ddechrau nyrsio yn yr 80au, ac yna deuthum yn fydwraig. Gyda fy mhersonoliaeth rwy'n hoffi helpu pobl."

Parhaodd Victoria â'r gwaith hwn i lawr ar Faes Sioe Caerfyrddin, yng Nghanolfan Halliwell ac yn Theatr Ffwrnes, Llanelli, ar ben ei gwaith arferol.

“Rwy’n ei fwynhau’n fawr. Mae'n wahanol, ond rydw i hefyd yn teimlo fy mod i'n rhoi rhywbeth yn ôl i'r gymuned.

“Y mwya’ o ni sydd yno i roi’r brechlyn ‘ma, cyn gynted byddwn ni mas o’r pandemig gobeithio.”

Cafodd Victoria ei hysbrydoli i recordio caneuon i’w postio ar y dudalen Facebook annibynnol, ‘Keep GGH smiling’ er mwyn ceisio cydweithwyr i deimlo’n well yng nghanol y pandemig.

“Roedd pawb yn teimlo mor fed up yn ystod y pandemig, ac roedd cymaint o posts hyfryd yn mynd i fyny o wahanol wardiau yn yr ysbyty.

“Dyna o le y daeth y syniad, cefais sylwadau mor hyfryd, dim ond ceisio codi ysbryd pobl. Rwy'n credu y gall cerddoriaeth wneud hynny.

“Roedd gwaith yn straen yn ystod y pandemig, byddain dod adref a recordio cân fach yn gwneud i mi deimlo’n well. Rwy'n gobeithio y gall helpu rhywun arall.

“Dyna sut roeddwn i’n helpu pobl, doeddwn i ddim yn gwybod sut i helpu unrhyw un mewn unrhyw ffordd arall. Mae pawb yn hoffi clywed rhywun yn canu dwi'n gobeithio.”

Mae Victoria wedi bod yn gerddorol ers oedran ifanc, o ganu i ddysgu piano yn 6 oed, ac yn ddiweddarach, chwarae'r organ yn ei heglwys yn 15 oed.

“ma’ fe yn fy ngwaed i rili, fi’n dwlu canu, chi’n gwybod ma’ pobl sy’n byw ar y stryd yn gallu clywed fi’n canu o’r tŷ.

“Rwy’n canu gyda’r côr cymunedol hefyd yn y dref, rydyn ni’n codi arian ar gyfer gwahanol elusennau trwy gynnal cyngherddau bach.”

Mae côr Victoria wedi rhoi arian i elusennau fel ‘Mind’ i gefnogi’r rhai sy’n dioddef.

Roedd lleddfu cyfyngiadau COVID-19, ar y pryd, yn golygu y gallai partneriaid ymweld â wardiau mamolaeth am ddwy awr bob dydd.

Mae'r uned dan arweiniad bydwreigiaeth yn Ysbyty Glangwili bellach yn ôl ar agor ers gweithredu fel y Parth Coch.

“Mae pethau wedi gwella llawer. Nad ydw i’n gwisgo cymaint o PPE ag yr oeddwn ar y dechrau. Ond rydyn ni'n dal yn ofalus iawn.

“Rydyn ni'n dal i wisgo masgiau a menig, golchi ein dwylo, a chadw pellter cymdeithasol rhwng staff. Ond mae pethau'n llawer gwell nag yr oeddent yn diolch byth.”

Gwrandewch ar bodlediad llawn Victoria yma, hefyd ar gael ar Spotify.