Neidio i'r prif gynnwy

Mae BIP Hywel Dda yn ennill gwobr Cynllun Cydnabod Cyflogwr Aur 2021

02/12/21

Dyfarnwyd Gwobr Cynllun Cydnabod Cyflogwr Aur (ERS) 2021 i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, mewn seremoni ranbarthol arbennig yng Nghaerdydd. 

Yn cynrychioli’r bathodyn anrhydedd uchaf, dyfernir Gwobrau Aur ERS i sefydliadau sy’n cyflogi ac yn cefnogi’r rhai sy’n gwasanaethu yn y lluoedd arfog, cyn-filwyr a’u teuluoedd. 

Derbyniodd BIP Hywel Dda'r wobr ar ôl dangos polisïau AD cefnogol yn llwyddiannus ar gyfer cyn-filwyr, milwyr wrth gefn, a Gwirfoddolwyr sy’n Oedolion Llu’r Cadetiaid. Roedd hyn yn cynnwys dangos cefnogaeth i briod a phartneriaid y rhai sy’n gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog. 

Roedd yn rhaid i'r bwrdd iechyd hefyd ddangos ei fod yn darparu 10 diwrnod o absenoldeb ychwanegol a dâl i filwyr wrth gefn.  

At hynny, i eirioli’r buddion o gefnogi aelodau cymuned y lluoedd arfog trwy annog eraill i arwyddo Cyfamod y Lluoedd Arfog a chymryd rhan yn yr ERS. 

Dywedodd Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Hywel Dda, Steve Moore: “Rwy’n hynod falch bod gwaith caled llawer o bobl yn ein sefydliad i gefnogi’r gymuned Amddiffyn a’r gweithlu wedi cael ei gydnabod gyda Gwobr Aur Cynllun Cydnabod Cyflogwr. 

“Ein ffocws ers arwyddo Cyfamod y Lluoedd Arfog yn 2016, fu gwella ein polisïau gweithlu yn barhaus er mwyn denu a chefnogi recriwtio a chadw’r gweithlu o gymuned y Lluoedd Arfog.

“Rydyn ni’n cydnabod y wybodaeth, y sgiliau trosglwyddadwy a’r dull adeiladol a chadarnhaol y mae Cyn-Filwyr a Milwyr Wrth Gefn yn ei gynnig i'n gwasanaeth iechyd, sy’n ehangu ymhellach ar y cyfraniadau gwirioneddol sylweddol maen nhw’n eu gwneud i'r gymdeithas ehangach.” 

Mae’r bwrdd iechyd yn un o ddim ond 10 sefydliad yng Nghymru sydd wedi ennill y wobr aur. 

Cynhaliwyd y seremoni yn HMS Cambria yng Nghaerdydd ar 17 Tachwedd ac fe’i cyflwynwyd ar y cyd gan Ôl-lyngesydd Keith Beckett CBE a Swyddog Awyr Cymru, y Comodor Awyr Adrian Williams OBE. 

Yn derbyn y wobr ar ran y bwrdd iechyd roedd Helen Sullivan, Pennaeth Partneriaethau, Amrywiaeth a Chynhwysiant, Anna Bird, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Partneriaethau Strategol, Amrywiaeth a Chynhwysiant ac Alan Winter, Uwch Swyddog Amrywiaeth a Chynhwysiant sydd hefyd yn gyn-filwr gyda 25 mlynedd o wasanaeth. 

Dywedodd y Gweinidog dros Amddiffyn, Pobl a Chyn-filwyr, Leo Docherty: “Hoffwn ddiolch i'r holl sefydliadau sydd wedi profi eu cefnogaeth i'r gymuned Amddiffyn yn ystod amseroedd mor ddigynsail a heriol. 

“Mae’r ystod eang o’r rhai a gydnabyddir eleni yn dangos sut mae cyflogi cymuned y Lluoedd Arfog yn cael effaith wirioneddol gadarnhaol a buddiol i bob cyflogwr, waeth beth fo’u maint, sector neu leoliad.”