Neidio i'r prif gynnwy

Mae BIP Hywel Dda wedi cyrraedd rownd derfynol tair Gwobr GIG Cymru!

24 Awst 2022

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn dathlu ar ôl i dri o'n prosiectau i gefnogi cleifion a chymunedau lleol  gyrraedd rownd derfynol Gwobrau GIG Cymru eleni.

Mae'r gwobrau cenedlaethol yn cydnabod sut y gall syniadau arloesol ar gyfer newid wneud gwahaniaeth sylweddol i'r cleifion sydd angen gofal, y sefydliadau sy'n darparu gofal, a'r system iechyd a gofal yn gyffredinol.

Mae'r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn lleol yn llwyddiannus yn cynnwys cyflwyno tîm o wahanol weithwyr proffesiynol iechyd a chymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin sy'n darparu gofal canolraddol, yn y categori darparu gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Mae’r tîm yn darparu amrywiaeth o gymorth tymor byr a all helpu pobl i wella yn eu hamgylchedd cartref ac atal dirywiad pellach a allai fel arall arwain at dderbyniadau i’r ysbyty.

Hefyd yn cyrraedd y rowndiau terfynol mae prosiect i wella llif gwaith ac effeithlonrwydd gwasanaethau fferyllol yn Ysbyty Glangwili yn y categori cyfoethogi llesiant, galluogrwydd ac ymgysylltu’r gweithlu iechyd a gofal.

Mae'n gyfle i arddangos timau gweithgar ac ysbrydoledig sy'n gweithio gyda'i gilydd, gan ymdrechu i wella arferion gofal iechyd a gofal cleifion ledled Cymru. Cyhoeddir yr enillwyr mewn seremoni ar 10 Hydref 2022.

Mae prosiect peilot partneriaeth rhwng tîm Gofal Brys yr Un Diwrnod yn Ysbyty Llwynhelyg ac Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru hefyd wedi cyrraedd y rhestr fer yn y categori darparu gwasanaethau mewn partneriaeth ar draws GIG Cymru. Dyma'r tîm SDEC cyntaf yng Nghymru i dderbyn atgyfeiriadau uniongyrchol o gleifion gan barafeddygon. Nod hyn yw osgoi derbyniadau diangen i'r ysbyty, gwella profiad y claf a chefnogi argaeledd ambiwlansys.

Dywedodd Prif Weithredwr BIP Hywel Dda, Steve Moore: “Mae’n wych gweld tri o’n timau o staff a phartneriaid yn cael eu harddangos am eu gwaith ysbrydoledig gyda’i gilydd. Mae ein cymuned iechyd a gofal yng ngorllewin Cymru yn parhau i ymdrechu i wella arferion gofal iechyd a gofal cleifion.”

Cyhoeddir yr enillwyr mewn seremoni ar 10 Hydref 2022.

Gyda chynifer o geisiadau ysbrydoledig yn cael eu cyflwyno eleni, roedd arbenigwyr y GIG ar y panel beirniadu yn ei chael hi'n anodd iawn llunio rhestr fer o'r 24 sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn yr wyth categori gwobrau. Y cam nesaf yw i'r paneli beirniadu ymweld â phob un sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol i ddarganfod mwy a gweld drostynt eu hunain y manteision y maent wedi'u cynnig i gleifion.

Trefnir Gwobrau GIG Cymru gan Gwelliant Cymru, sef y gwasanaeth gwella cenedlaethol ar gyfer GIG Cymru a ddarperir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru

I gael rhestr lawn o'r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol, ewch https://icc.gig.cymru/gwasanaethau-a-thimau/gwelliant-cymru/academi-gwelliant-cymru/gwobrau-gig-Cymru