19 Mehefin 2024
Mae unigolyn a thîm o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi cael eu cydnabod am eu llwyddiannau eithriadol ym maes gwasanaethau canser yng Ngwobrau Canser Moondance ddydd Iau diwethaf (Mehefin 13).
Nod y gwobrau – sef unig wobrau canser Cymru – yw dathlu a thynnu sylw at unigolion a thimau ar draws GIG Cymru a’i bartneriaid sy’n darparu, yn arwain ac yn arloesi gwasanaethau canser.
Enwyd y tîm y tu ôl i’r rhaglen Gofal Gweithredol Prostad Gyda’n Gilydd (PACT) yn gyd-enillwyr gwobr Gwella Profiad y Claf am eu gwasanaeth adsefydlu a chymorth pwrpasol i bobl â chanser y prostad.
Mae’r rhaglen PACT yn cynnig cyngor wedi’i deilwra ar ymarfer corff, maeth a lles, ac yn grymuso pobl â chanser y prostad i leihau canlyniadau sgîl-effeithiau triniaeth a gwella canlyniadau iechyd tymor hwy.
Ac fe wnaeth Rachel Lewis, Arweinydd Canser Proffesiynol Perthynol i Iechyd yn Hywel Dda ennill y Wobr Rhagoriaeth Nyrsio adref. Cafodd ei chanmol am ei sgiliau arwain a’i dycnwch wrth sefydlu gwasanaethau adsefydlu sy’n darparu cymorth a chefnogaeth hanfodol i bobl â chanser.
Dywedodd Rachel Lewis, sydd hefyd yn rhan o’r tîm PACT buddugol: “Mae gweld PACT yn ennill gwobr profiad y claf heno yn dyst i’w hymroddiad a’u hymrwymiad i wella mynediad at wasanaethau adsefydlu canser o fewn Bwrdd Iechyd Hywel Dda. Rwy’n gobeithio bod hwn yn gam tuag at wreiddio gwasanaethau adsefydlu cyfannol yn barhaol ar draws y llwybr gofal canser. Roedd yn anhygoel cael ein cydnabod yn noson Gwobrau Moondance.”
Cafodd enillwyr eleni eu beirniadu gan banel o arbenigwyr ac arweinwyr gan gynnwys: Yr Athro Tom Crosby, Cyfarwyddwr Clinigol Canser Cymru; Cari-Anne Quinn, Prif Swyddog Gweithredol Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru; Judith Paget CBE, Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Phrif Weithredwr GIG Cymru a'r Athro Kamilla Hawthorne, Meddyg Teulu a Chadeirydd Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol.
Dywedodd Dr Rob Orford, Prif Swyddog Gweithredol Moondance Cancer Initiative: “Crëwyd y gwobrau i ddathlu a diolch i’r bobl sydd wedi rhoi o’u hamser i wella ac arloesi llwybrau canfod, diagnosis a thriniaeth ar draws gwasanaethau canser yng Nghymru.
“Rydyn ni'n gobeithio, trwy roi sylw i'r bobl hyn, y gallwn ni helpu i ysbrydoli atebion yfory ar gyfer goroesi. Rydym mor falch bod cymaint o bobl o bob rhan o ofal iechyd yng Nghymru wedi dod i ddathlu gyda ni. Llongyfarchiadau i’r enillwyr ac i bawb gafodd eu henwebu ar draws Cymru.
“Mae’r gwobrau hyn wir yn dangos bod gwelliant yn bosibl ac yn digwydd ar draws gwasanaethau canser Cymru. Yn Moondance, rydym yn dod o hyd i, yn ariannu ac yn rhoi tanwydd i bobl wych sydd â syniadau dewr i wella canlyniadau canser i Gymru. Os oes gennych chi, neu eich tîm, ddiddordeb mewn trafod syniad, cysylltwch â ni, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.”
Dywedodd Dr Neil Wooding, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda:
“Rwyf wrth fy modd i weld holl waith rhagorol cydweithwyr ar draws ein gwasanaethau canser yn Hywel Dda yn cael ei gydnabod yn genedlaethol.
“Mae’n newyddion gwych bod Rachel a’r tîm ymroddedig y tu ôl i’r rhaglen Prostate Active Care Together (PACT) wedi ennill gwobrau mawreddog Moondance Cancer Awards. Llongyfarchiadau i chi gyd.
“Llongyfarchiadau hefyd i bawb a gafodd eu henwebu yn y gwobrau. Mae eich ymroddiad rhagorol, arbenigedd a thosturi yn newid bywydau cleifion yn ein gofal.”
I gael rhagor o wybodaeth am y gwobrau, ewch i:Moondance Cancer Awards | Moondance Cancer Initiative (moondance-cancer.wales) (Agor mewn tab newydd)
DIWEDD
Llun yn dangos y tîm PACT gyda'u gwobr. O'r chwith - Christopher Richards, Rachel Lewis, Sam Harrison-Little, Helen Harries (arweinydd y prosiect), David Easton a Deborah Perry.